Nifer y cysylltiadau a nifer cyfartalog y cysylltiadau fesul plentyn sy'n derbyn gwasanaethau Dechrau'n Deg, yn ôl grŵp staff a yn ôl awdurdod lleol

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grŵp staff
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
Awdurdod lleolWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 23 gwerthNewid gwerthoedd
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 13 gwerthNewid gwerthoedd
Grŵp staffWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 3 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [t] = cyfanswm, [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataAwdurdod lleolBlwyddynGrŵp staff
133,240 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2012-13Ymwelwyr iechyd
45,934 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2012-13Y tîm iechyd ehangach
0 [t] [z]Nifer y cysylltiadauCymru2012-13Staff eraill
160,918 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2013-14Ymwelwyr iechyd
55,651 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2013-14Y tîm iechyd ehangach
0 [t] [z]Nifer y cysylltiadauCymru2013-14Staff eraill
187,109 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2014-15Ymwelwyr iechyd
79,696 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2014-15Y tîm iechyd ehangach
0 [t] [z]Nifer y cysylltiadauCymru2014-15Staff eraill
189,900 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2015-16Ymwelwyr iechyd
70,230 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2015-16Y tîm iechyd ehangach
27,672 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2015-16Staff eraill
174,215 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2016-17Ymwelwyr iechyd
70,388 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2016-17Y tîm iechyd ehangach
69,324 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2016-17Staff eraill
169,351 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2017-18Ymwelwyr iechyd
67,373 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2017-18Y tîm iechyd ehangach
37,134 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2017-18Staff eraill
158,493 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2018-19Ymwelwyr iechyd
55,284 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2018-19Y tîm iechyd ehangach
35,637 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2018-19Staff eraill
148,523 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2019-20Ymwelwyr iechyd
47,072 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2019-20Y tîm iechyd ehangach
33,335 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2019-20Staff eraill
155,787 [t]Nifer y cysylltiadauCymru2020-21Ymwelwyr iechyd
Yn dangos 1 i 25 o 1,720 rhes
Page 1 of 69

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni monitro data Dechrau’n Deg
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Cyfrifo neu gasglu data

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013.

Mae'r tîm iechyd ehangach yn cael ei ddiffinio fel y staff hynny sydd â chofrestriad iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol, a ariennir gan raglen Dechrau'n Deg. Bydd yn cynnwys staff sydd yn:

  • rheolwyr iechyd heb achosion penodol
  • deietegwyr
  • bydwragedd
  • seicolegwyr clinigol
  • seicolegwyr addysg
  • therapyddion iaith a lleferydd
  • gweithwyr cymdeithasol
  • nyrsys cymunedol (gyda chymhwyster priodol)
  • therapyddion galwedigaethol
  • unrhyw weithwyr proffesiynol arall ym meysydd iechyd neu ofal

Mae'r diffiniad o 'staff eraill' yn cynnwys unrhyw staff heb eu cofrestru. Mae hyn fel arfer yn golygu'r rhai nad ydynt wedi cymhwyso'n llawn a'r rhai sy'n cynorthwyo gweithwyr iechyd proffesiynol sydd wedi cymhwyso'n llawn wrth ddarparu gwasanaethau. Dim ond o 2015-16 ymlaen y mae cysylltiadau gan staff eraill ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth am grwpiau staff a gwybodaeth bellach am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Effeithiwyd ar ddata o 2020-21 a 2021-22 yn sgil y pandemig COVID-19. Mewn blynyddoedd cyn y pandemig, yn gyffredinol dim ond cysylltiadau wyneb yn wyneb gafodd eu cofnodi fel cysylltiadau Dechrau'n Deg. Nododd canllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021 y dylid, fel rheol gyffredinol, cofnodi unrhyw weithgaredd wedi'i dargedu drwy wahanol ddulliau yn ystod y pandemig (hy cysylltiadau rhithiol drwy Skype neu Whatsapp) yn yr un modd ag y cofnodir cysylltiadau wyneb yn wyneb o'r blaen. Roedd y canllawiau hefyd yn dweud y dylai awdurdodau lleol arfer eu barn broffesiynol wrth benderfynu a oedd cyswllt rhithiol yn ddigon ystyrlon i gael ei gofnodi.

Mae awdurdodau lleol wedi rhoi adborth ychwanegol ar sut effeithiwyd ar wasanaethau yn 2021-22, ac roedd y rhain yn cynnwys:

  • sroedd rhai rhaglenni rhianta a rhaglenni iaith, lleferydd a chyfathrebu naill ai ddim yn cael eu rhedeg neu ddim yn gallu cael eu cwblhau
  • roedd gan rai sesiynau gofal plant bresenoldeb isel oherwydd pryder parhaus rhieni ynghylch COVID-19
  • dewisodd rhai rhieni beidio â manteisio ar ofal plant y byddent o bosibl wedi’i dderbyn cyn y pandemig
  • byddai rhai staff Dechrau’n Deg wedi bod yn hunanynysu, yn eu gwarchod eu hunain neu’n sâl, gan effeithio ar y gwasanaeth a oedd yn cael ei gynnig
  • mae’n bosibl bod rhai cysylltiadau a gofnodwyd fel cysylltiadau wyneb yn wyneb wedi digwydd dros y ffôn neu’n rhithiol.

Mae angen ystyried y ffactorau hyn wrth ddefnyddio data ar gyfer 2021-22. Cafodd y pandemig hefyd effaith ar wasanaethau yn 2022-23. Er na welwyd yn 2022-23 y cyfyngiadau a'r addasiadau gorfodol o ran darparu gwasanaethau a oedd ar waith yn 2021-22, mae’n bosibl y bu rhywfaint o aflonyddwch o hyd oherwydd achosion lleol o'r feirws. At hynny, cadwyd rhywfaint o ddarpariaeth rithwir cyrsiau magu plant, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwasanaethau ymwelwyr fel rhan o waith cyflawni rhaglenni ar gyfer 2022-23, naill ai oherwydd dewis personol neu oherwydd yr ystyriwyd bod honno’n ffordd effeithiol o gyrraedd rhai teuluoedd gan ddibynnu ar amgylchiadau unigol. Mae angen gofal felly wrth gymharu data 2022-23 gyda ffigurau cyn y pandemig.

Ymweliadau Iechyd yn Rhondda Cynon Taf: Mae Rhondda Cynon Taf yn treialu model newydd ar gyfer ymweliadau iechyd, sy’n golygu bod data rhwng 2020-21 a 2023-24 yn cael eu casglu ar sail wahanol i flynyddoedd blaenorol. Mae hyn olygu y gallai unrhyw wahaniaethau rhwng blynyddoedd blaenorol ac unrhyw wahaniaethau gydag ardaloedd awdurdodau lleol eraill fod oherwydd y model darpariaeth gwasanaethau gwahanol. Byddai’n ddoeth felly bod yn ofalus wrth gymharu data Rhondda Cynon Taf â data blynyddoedd blaenorol, ac wrth gymharu â data awdurdodau lleol eraill yn 2022-23.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru