Dangosyddion asesiad cychwynnol mamolaeth yn ôl bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Asesiad cychwynnol o fewn 10 wythnos
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cylfwr iechyd meddwl wedi'l adrodd
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
BMI
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

4ydd Awst 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r flwyddyn ddiweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata’r flwyddyn flaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r].

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Set Ddata Dangosyddion Mamolaeth (MIDS)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
26c2f5be-c556-4739-83e0-5d0cfbc92205

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Gwybodaeth a gofnodwyd yn yr asesiad cychwynnol am Fynegai Màs y Corff (BMI), a adroddodd y fam am gyflwr iechyd meddwl ac a ddigwyddodd yr asesiad cychwynnol o fewn 10 wythnos wedi’i gwblhau o feichiogrwydd, wedi’u dadansoddi yn ôl bwrdd iechyd lleol.

Mae’r data hyn yn deillio o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnodion o asesiad cychwynnol y fam â chofnod genedigaeth y plentyn.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru

Amcangyfrifir hyd beichiogrwydd o pan ddechreuodd y beichiogrwydd, yn seiliedig naill ai ar ddyddiad y mislif diwethaf neu ar sgan uwchsain. Caiff y cyflyrau iechyd meddwl a restrir ar y cofnod eu categoreiddio fel a ganlyn:

  • seicosis ôl-esgor (iselder ôl-enedigol difrifol)
  • anhwylder affeithiol deubegynol/iselder manig
  • seicosis
  • iselder seicotig
  • sgitsoffrenia
  • ac arall (unrhyw gyflwr iechyd meddwl arall).
Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r data o’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth dim ond yn cynnwys data asesiadau cychwynnol lle’r oedd yr asesiad cychwynnol a’r enedigaeth wedi digwydd yn yr un bwrdd iechyd, a hynny yng Nghymru yn unig. Nid yw genedigaethau i famau sy’n byw yng Nghymru a roddodd enedigaeth yn Lloegr neu mewn unrhyw wlad arall y tu allan i Gymru wedi’u cynnwys yn y data.

Mae data ar gyfer pob blwyddyn galendr yn cyfeirio at ba bryd y ganed y babi. Mae’n bosibl bod asesiadau cychwynnol wedi digwydd yn y flwyddyn flaenorol, ond cânt eu cyfrif ym mlwyddyn yr enedigaeth.

Efallai fod rhai menywod wedi cael eu hasesiad cychwynnol cyn y dyddiad a gofnodwyd. Mae’r fethodoleg gyfuno sy’n gysylltiedig â’r asesiad cychwynnol a’r cofnod genedigaeth yn seiliedig ar ba bryd y mae’r rhain yn digwydd o fewn yr un bwrdd iechyd. Mae’n bosibl y gallai mam gael asesiad cychwynnol mewn un bwrdd iechyd yn gynnar yn ei beichiogrwydd, ond os bydd yn rhoi genedigaeth wedyn mewn bwrdd iechyd arall, caiff asesiad cychwynnol arall ei gofnodi ar ei chyfer yn yr ail fwrdd iechyd lle mae’n rhoi genedigaeth. Cofnodwyd cyfran fach o’r asesiadau cychwynnol (1%) rhwng 39 a 40 wythnos.

Caiff canrannau eu cyfrifo gan ddefnyddio enwadur o bob cofnod llai o gofnodion sydd ‘heb ei nodi’. Mae ‘heb ei nodi’ hefyd yn cynnwys cofnodion lle nodwyd bod hyd y beichiogrwydd yn 0 wythnos.

Mae cofnodion lle mae BMI, taldra neu bwysau yn werthoedd afrealistig yn cael eu hystyried yn annilys, er enghraifft lle mae BMI yn llai na 10 neu’n fwy na 100; os yw pwysau’r fenyw feichiog yn llai na 30kg neu’n fwy na 250kg; a lle roedd taldra’r fenyw feichiog yn llai na 120cm neu’n fwy na 200cm.

Nid yw'r cyfrifiad ond yn cynnwys menywod a gafodd eu hasesiad cychwynnol adeg 14 wythnos o feichiogrwydd neu’n gynharach. Diben hyn yw lleihau cymariaethau annheg lle mae’r cyfrifiad BMI yn cael ei effeithio gan dwf babanod lle digwyddodd yr asesiad cychwynnol ar ôl 15 wythnos. Mae rhwng 11 i 15% o achosion beichiogrwydd wedi cael eu heithrio am y rheswm hwn bob blwyddyn.

Gellir dod o hyd i nifer y cofnodion a eithriwyd yn Nhabl 4 o’r Ystadegau mamolaeth a genedigaethau adroddiad ansawdd

Ansawdd ystadegol

Ar gyfer BMI, roedd gan fwy na 90% o gofnodion ddata dilys ar gyfer eitemau data taldra a phwysau, ar draws pob bwrdd iechyd, yn y mwyafrif o flynyddoedd ar wahân i’r rhai a ganlyn: Bwrdd Iechyd Cwm Taf yn 2016 (77%) ac yn 2019 (88%) a Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn 2019 (89%). Ar gyfer 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio o’r dadansoddiad oherwydd lefelau uchel o ddata annilys ar gyfer taldra sy’n arwain at 77% o ddata coll ar gyfer BMI.

Ar gyfer cyflwr iechyd meddwl adeg yr asesiad cychwynnol, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi’u heithrio ar gyfer y blynyddoedd 2016 i 2023 oherwydd bod dibynadwyedd y data yn isel. Cafodd data o Gwm Taf/Cwm Taf Morgannwg eu heithrio o'r dadansoddiad iechyd meddwl oherwydd pryderon ynghylch ansawdd y data cyn 2022. Datryswyd y problemau ansawdd data hyn, ac nid yw data Cwm Taf/Cwm Taf Morgannwg o 2022 ymlaen bellach yn cael eu heithrio. Er bod data dilys wedi’u cofnodi ar gyfer 99% o’r cofnodion yn y ddau fwrdd iechyd, cofnodwyd nad oedd gan y mwyafrif helaeth unrhyw gyflwr iechyd meddwl sy’n annhebygol o adlewyrchu’r sefyllfa wirioneddol yn y byrddau iechyd hyn.

Mae gan bob bwrdd iechyd arall ddata dilys ar gyfer yr eitem ddata iechyd meddwl mewn o leiaf 88% o gofnodion ym mhob blwyddyn, ar wahân i Fwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn 2016 (cyflawnrwydd o 56%). Yn 2024, mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi’i eithrio oherwydd lefelau uchel o ddata coll (76%).

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn.

Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru