Asesiadau Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru yn ôl craffter golwg a gofnodwyd a bwrdd iechyd.

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Craffter Gweledol
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
12 o 12 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026

Diweddariadau

30ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Gwasanaeth Golwg Gwan Cymru
Ffynhonnell y data 1
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Darparwr data 2
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 2
Cerdyn Cofnodi Asesiad Golwg Gwan
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2013 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr asesiadau golwg gwan yn ôl y craffter golwg a gofnodwyd.

Mae Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 3 yn galluogi cleifion, a fyddai'n elwa ar gymhorthion optegol ac anoptegol, yn ogystal â chymorth a chyngor adsefydlu cyfannol (gan gynnwys cofrestru amhariad ar eu golwg), i gael mynediad at wasanaeth golwg gwan yn eu man preswylio neu'n agos ato.

Mae'r data yn cael eu dadansoddi yn ôl y craffter golwg a gofnodwyd yn ystod yr asesiad a Bwrdd Iechyd Lleol. Mae craffter golwg yn mesur eglurder neu finiogrwydd golwg person - mae 6/12 yn golygu gweld ar 6 metr yr hyn y mae person â golwg arferol yn ei weld ar 12 metr, tra mae 6/60 yn golygu golwg sylweddol waeth. Mae'r set ddata yn darparu trosolwg o weithgarwch gwasanaethau golwg gwan a dosbarthiad y lefelau craffter golwg ymhlith cleifion ar draws byrddau iechyd.

Cyfrifo neu gasglu data

Caiff craffter golwg ei fesur yn ôl y "ffracsiwn Snellen" drwy gymharu'r pellter mewn metrau y gall claf weld llythyren yn gywir â'r pellter y gallai person â golwg arferol ei gweld. Er enghraifft, mae 6/6 yn dynodi golwg normal, tra mae 6/12 yn golygu y gall y claf weld ar 6 metr yr hyn y gallai person â golwg arferol ei weld ar 12 metr. Er mwyn cyrraedd y categorïau craffter golwg cyffredinol a gyflwynir yn y data hyn, cyfunwyd gwahanol gategorïau yn y data sylfaenol, e.e. cyfunwyd '6/7.5 – 6/12' â '6/6+' i ffurfio'r 'categori 6/12 neu well'. Yna, mae nifer yr asesiadau golwg gwan gyda phob craffter golwg yn cael eu dadansoddi yn ôl blwyddyn ariannol a bwrdd iechyd i gyrraedd y set ddata derfynol. Mae'r data yn seiliedig ar hawliadau a wneir gan bractisau i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru am daliad. Mae practisau yn cyflwyno cerdyn cofnod i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac mae'r data hyn yn cynhyrchu'r taliad o'r system. Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu set ddata gyfanredol gyda niferoedd i Lywodraeth Cymru.

Ansawdd ystadegol

Ar 1 Ebrill 2019, symudodd y cyfrifoldeb am wasanaeth iechyd preswylwyr Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r byrddau iechyd hefyd: Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, a daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gweler yr adran dolenni gwe am ddatganiadau swyddogol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru