Plant sy’n derbyn gofal ar 31 Mawrth yn ôl lleoliad y gofal
Disgwylir y diweddariad nesaf:Rhagfyr 2026
Diweddariadau
- 16eg Gorffennaf 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2016 i Mawrth 2025
- ID y set ddata
- 23acb719-adcc-43ca-91b2-fbf6d88ac32d
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Oddi 2016-17, cesglir data plant sy’n derbyn gofal yn ystod y flwyddyn bellach drwy’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae hwn wedi disodli’r setiau data sy'n bodoli eisoes Plant sy’n Derbyn Gofal (SSDA903), Mabwysiadau Plant sy'n Derbyn Gofal (AD1), Cymwysterau Addysgol y rhai sy'n Gadael Gofal (OC1) a'r rhai sy'n Gadael Gofal ar eu 19eg pen-blwydd (OC3).
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno ffigurau am blant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol Cymru. Mae'r plant sy'n derbyn gofal yn cynnwys y rhai ar orchmynion gofal a phlant eraill sy'n derbyn llety gan eu hawdurdod lleol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff data lefel plentyn unigol dienw eu cymryd o systemau gweinyddol awdurdodau lleol a'u dychwelyd yn electronig i'r tîm Casglu Data yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio system ddiogel o drosglwyddo data ar-lein o'r enw 'Objective Connect’. Yna mae dadansoddwyr Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfres helaeth o wiriadau dilysu i sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn defnyddio'r codau cywir a'i bod yn gyson yn fewnol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol, yn y ddolen i'r we a nodir.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r gwerthoedd wedi'u talgrynnu i'r 5 agosaf. Mae gwerthoedd sy'n llai na 5 wedi'u hatal a'u dangos fel 'c'.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.gwascymdeithasol@llyw.cymru