Tabl defnydd: defnydd cynhyrchion yn ôl diwydiant a galw terfynol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Cynnyrch a chydrannau gwerth ychwanegol (rhesi)
64 o 64 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Treuliant canolraddol a galw terfynol (colofnau)
72 o 72 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
1 o 1 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

23ain Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Tablau cyflenwad a defnydd a thablau mewnbwn-allbwn
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2022 i Rhagfyr 2022
ID y set ddata
2104d2db-dbb4-4a87-b16b-cd1369dcf9e2

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Beth yw’r tabl defnydd

Mae’r set ddata hon yn cynnwys tabl defnydd sy’n dangos gwerth y cynnyrch a ddefnyddir yng Nghymru neu sydd wedi’i allforio.

Mae’n nodi faint o bob cynnyrch sy’n cael ei ddefnyddio gan ddiwydiannau fel mewnbwn yn y broses gynhyrchu, faint a ddefnyddir gan ddefnyddwyr terfynol – gan gynnwys aelwydydd, llywodraeth a sefydliadau nid-er-elw – a faint a ddefnyddir ar gyfer ffurfiant cyfalaf neu ei allforio.

At beth defnyddir y tabl

Defnyddir y tabl defnydd ochr yn ochr â’r tabl cyflenwad i ddisgrifio’r berthynas rhwng cyflenwad a defnydd yn yr economi, lle mae cyfanswm cyflenwad y cynnyrch yn hafal i gyfanswm y defnydd.

Gyda’i gilydd, mae’r tablau cyflenwad a defnydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer llunio’r tablau mewnbwn-allbwn ac ar gyfer dadansoddiadau economaidd ehangach.

Sut mae’r tabl wedi’i strwythuro

Dangosir defnydd y cynnyrch yn rhesi’r tabl.

Mae’r colofnau’n crynhoi defnyddwyr pob cynnyrch. Islaw rhesi’r cynnyrch, mae’r tabl yn cynnwys crynodeb o’r gwerth a ychwanegwyd gan ddiwydiannau.

Oni nodir yn wahanol, mynegir pob ffigur ym mhrisiau’r prynwyr (sy’n cynnwys trethi ond yn eithrio cymorthdaliadau ar gynhyrchion), ac mewn miliynau o bunnoedd.

Cyfrifo neu gasglu data

Pa ffynonellau data a ddefnyddir

Caiff tablau cyflenwad a defnydd Llywodraeth Cymru eu llunio gan ddefnyddio ystod eang o arolygon, setiau data gweinyddol a ffynonellau eraill.

Mae rhagor o fanylion am y ffynonellau data a’r dulliau ar gael yn yr adroddiad methodoleg ategol.

Sut mae’r tablau hyn yn cymharu â’r cyhoeddiadau blaenorol

Ni ddylid cymharu’r set ddata hon â chyhoeddiad 2019, gan fod y dulliau, ffynonellau data a’r ffordd y cyflwynir y data wedi cael eu haddasu’n sylweddol.

Ansawdd ystadegol

Beth sydd angen i chi ei wybod am ansawdd y data

Dynodir y tablau cyflenwad, defnydd a thablau mewnbwn-allbwn yn Ystadegau Swyddogol o dan Ddatblygiad (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau).

Beth yw’r prif gyfyngiadau o ran ansawdd

  • Mae rhai rhannau o'r tabl yn defnyddio patrymau ar lefel y DU lle nad oes data penodol i Gymru ar gael ar hyn o bryd, gan gynnwys strwythurau cynhyrchu ar gyfer diwydiannau nad ydynt yn perthyn i’r sector gweithgynhyrchu.
  • Mae rhai amcangyfrfon yn fwy ansicr na'i gilydd, yn enwedig mewnforion, sy'n dibynnu ar dybiaethau symlach am gadwyni cyflenwi.
  • Nid yw pob arolwg yn cwmpasu pob rhan o economi Cymru, felly rydym yn defnyddio dulliau dosrannu a ffynonellau data ychwanegol lle bo angen.

O ganlyniad, mae’r tablau ar eu cryfaf pan gânt eu defnyddio i ddadansoddi’r economi a sectorau yn eu cyfanrwydd yn hytrach na thrafodion unigol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Talgrynnir pob gwerth i 4 lle degol. O ganlyniad, efallai na fydd y cyfansymiau a'r is-gyfansymiau'n adio'n union.

Anogir defnyddwyr sydd angen mwy o fanylder i lawrlwytho’r tablau data mewn fformat OpenDocument Spreadsheet (ODS) o wefan Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
tablaumewnbwnallbwn@llyw.cymru