Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol sy'n seiliedig ar 2024 yn ôl oedran, rhyw a blwyddyn
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, ond disgwylir iddi gael ei disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 28ain Ebrill 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data
- Amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn darparu amcanestyniadau poblogaeth ar gyfer Cymru yn ôl rhyw, oedran, a phob blwyddyn o ganol 2024, trwy'r cyfnod amcanestyniadau hyd at ganol 2049.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG) yn cynhyrchu amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru a gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae'r set ddata hon yn darparu data Cymru a gyhoeddwyd ar 28 Ebrill 2026, gan gynnwys amcanestyniadau yn ôl rhyw a blwyddyn oedran unigol ar gyfer pob blwyddyn o ganol 2024 hyd at ganol 2049. Mae'r amcanestyniadau ar gael ar wefan y SYG hyd at ganol 2124.
- Ansawdd ystadegol
Gweler y datganiad ystadegol ar yr amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol yn y dolenni gwe.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae data wedi'u talgrynnu'n annibynnol i'r rhif cyfan agosaf ac efallai na fyddant yn adio'n union. Mae oedrannau cymedrig a chanolrifol wedi'u talgrynnu i ddau le degol ac ni ellid eu hadio.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru