Costau ac eitemau a bresgripsiynir drwy bractisau cyffredinol, Cymru
Disgwylir y diweddariad nesaf:Medi 2026
Diweddariadau
- 16eg Gorffennaf 2026
Mae’r set ddata hon wedi’i harchifo oherwydd bod data bellach ar gael yn ‘Eitemau presgripsiwn a chost yn ôl bwrdd iechyd, clwstwr, pennod BNF a blwyddyn’.
- 2ail Hydref 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Gwasanaethau Presgripsiwn
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 1973 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 204c95d1-e8fa-4726-9470-238863207d7e
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn seiliedig ar eitemau sy'n cael eu presgripsiynu gan unrhyw aelod o staff practis cyffredinol yn Nghymru sy'n gymwys i wneud hynny, sy'n cael eu cyflenwi wedyn yn y gymuned yn y DU.
Mae 'eitemau' yn cyfeirio at bob un eitem wahanol o feddyginiaeth neu gyfarpar a restrir ar bresgripsiwn, waeth beth fo'r swm neu'r cyfaint. Dim ond eitemau sy'n cael eu cyflenwi sy'n cael eu cyfrif.
Cost net cynhwysion, wedi'i mesur mewn punnoedd sterling, yw cost sylfaenol yr eitem, cyn unrhyw ffioedd ychwanegol (er enghraifft, ffioedd cyflenwi i fferyllfeydd) neu ostyngiadau (adfachiadau'r GIG).
Defnyddir poblogaeth gofrestredig practisau cyffredinol ar gyfer mesurau poblogaeth, gan fod yr eitemau'n cael eu presgripsiynu i boblogaeth practisau cyffredinol yn hytrach nag i boblogaeth gyffredinol Cymru. Mae'r ddau fesur hyn yn debyg ond mae rhai o drigolion Cymru wedi'u cofrestru â phractisau cyffredinol yn Lloegr, ac i'r gwrthwyneb.
Mae nifer yr eitemau a gafodd eu presgripsiynu a’u costau cysylltiedig yn seiliedig ar y flwyddyn ariannol a gofnodwyd, a all mewn nifer dethol o achosion fod yn wahanol i’r flwyddyn a ysgrifennwyd.
- Cyfrifo neu gasglu data
Daw'r data am bresgripsiynau i law oddi wrth Wasanaethau Presgripsiynu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru ac maent yn seiliedig ar yr wybodaeth ar ffurflenni presgripsiwn a anfonir gan bresgripsiynwyr i gael eu talu.
- Ansawdd ystadegol
Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru