Apwyntiadau arbenigol gydag optometrydd presgripsiynu (WGOS 5), yn ôl oedran, ethnigrwydd y claf a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu ar gyfer 2025-26.
- 9fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwyno Ffurflenni Microsoft
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2024 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 20171885-5e00-465b-a5a9-36572753e477
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 5 yng Nghymru yn ôl grŵp oedran y claf a grŵp ethnig.
Mae WGOS 5 yn darparu gwasanaethau gofal llygaid ym maes gofal sylfaenol sy'n gofyn am optometrydd presgripsiynu annibynnol i reoli, trin a monitro cleifion i atal atgyfeiriad ymlaen.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff hawliadau WGOS 5 eu cyflwyno'n electronig drwy ffurflenni Microsoft i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG a'u lanlwytho i'w system taliadau K2.
Yna caiff set ddata ar lefel hawliad ei darparu i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys oedran ac ethnigrwydd y claf ar gyfer pob hawliad.
- Ansawdd ystadegol
Caiff ethnigrwydd ei gasglu fel testun rhydd ac mae wedi’i fapio i gategorïau ethnigrwydd safonol. Pan oedd ymatebion yn amwys neu pan nad oeddent yn cyfateb yn uniongyrchol i gategori safonol, neilltuwyd dosbarthiadau ar sail y farn orau. O ganlyniad, gall fod rhywfaint o gamddosbarthu yn y data. Fodd bynnag, mae cofnodion amwys yn cyfrif am gyfran fach o’r apwyntiadau.
Nid yw data blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn uniongyrchol gymaradwy â data blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymlaen, gan fod WGOS 5 wedi’i gyflwyno ar adegau gwahanol ar draws byrddau iechyd yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru