Tipio anghyfreithion a gofnodwyd gan awdurdodau lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
19 o 19 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Newidyn
55 o 55 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

5ed Mawrth 2026

diweddariad metadata

24ain Chwefror 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y data
Waste Data Flow
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2006 i Ebrill 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Crynodeb o achosion o dipio anghyfreithlon, camau gorfodi a chanlyniadau erlyn.

Gellir dod o hyd i’r diffiniadau o fewn y canllawiau ar WasteDataFlow (WDF).

Nid yw nifer yr achosion yn ôl maint o reidrwydd yn cyfateb i gyfanswm yr achosion, neu i nifer yr achosion yn ôl math o dir neu wastraff, gan nad oes gofyn i Awdurdodau Lleol adrodd ar y maint ar bob achlysur.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau yn seiliedig ar wybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol i’r gronfa ddata ‘WasteDataFlow’. Nid yw'r ystadegau yn cwmpasu digwyddiadau tipio anghyfreithlon ar holl dir preifat, ac ni gofnodir pob digwydd tipio anghyfreithlon gydag awdurdod lleol.

Dylid nodi nad yw erlyniadau o reidrwydd yn digwydd yn yr un flwyddyn a'r digwyddiad tipio anghyfreithlon. Efallai na fydd erlyniadau a chanlyniadau erlyn bob amser yn cyfateb; gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Ansawdd ystadegol

Dylid cymryd gofal wrth ddehongli’r ffigurau hyn oherwydd newidiadau a gwelliannau yn y mecanweithiau adrodd data a’r canllawiau cysylltiedig. Er enghraifft, gallai cynnydd blynyddol mawr fod oherwydd gwelliannau i weithdrefnau cofnodi.

Wrth baratoi ar gyfer y cyhoeddiad 2024 i 2025, canfuwyd anghysondebau rhwng y ffigurau ar WDF a StatsCymru. Roedd y rhain yn ganlyniad i gyfuniad o ffactorau gan gynnwys gwallau dynol, diwygiadau ar WDF nad oedd wedi’u hadlewyrchu ar StatsCymru, ac anghysondebau yn y defnydd o amcangyfrifon.

Er mwyn sicrhau cywirdeb a chysondeb, mae WDF a StatsCymru ill dau wedi’u diweddaru i gydweddu â’r data diweddaraf sydd ar gael, ynghyd â dull cyson o wneud amcangyfrifon lle nad oes data ar gael. Cynhaliwyd y gwaith hwn ar gyfer y blynyddoedd o 2015 i 2016 ymlaen.

Mae amcangyfrifau eraill yn cynnwys y canlynol:

Lle roedd nifer yr achosion fesul math o wastraff a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yn rhoi cyfanswm llai na'r holl achosion a gofnodwyd, mae'r digwyddiadau na gofnodwyd wedi'u cynnwys yn y categori arall (anhysbys).

Lle roedd nifer yr achosion fesul math o dir a gyflwynwyd gan awdurdodau lleol yn rhoi cyfanswm llai na’r holl achosion a gofnodwyd, mae’r digwyddiadau na gofnodwyd wedi'u cynnwys yn y categori arall (anhysbys).

Ni lwyddodd un Awdurdod Lleol (Caerdydd) i ddarparu data ar gyfer mis Mehefin 2014.

Ni lwyddodd un Awdurdod Lleol (Sir y Fflint) i ddarparu data ar gyfer mis Gorffennaf 2015 i fis Mawrth 2016. Defnyddiwyd amcangyfrifon ar gyfer y misoedd hyn yn seiliedig ar ddata ar gyfer y flwyddyn flaenorol.

Ar gyfer 2018-19, nid oedd Sir Gaerfyrddin yn gallu rhoi manylion am yr achosion yn ôl y math o dir. Am y rheswm hwn, mae pob digwyddiad yn Sir Gaerfyrddin wedi cael ei gategoreiddio fel ' math arall o dir (anhysbys) '.

Nid oedd 3 o'r 22 awdurdod lleol yn gallu darparu ffigurau ar gyfer y 4ydd chwarter, Ionawr I Fawrth 2020. Ar gyfer yr awdurdodau hyn, cyfrifwyd amcangyfrif ar gyfer y cyfnod hwn yn seiliedig ar 3 chwarter cyntaf 2019-20 (Ebrill I Ragfyr 2019) a chwarter 4 o'r flwyddyn flaenorol (Ionawr I Fawrth 2019). Felly mae cyfansymiau Cymru hefyd yn cynnwys elfen o amcangyfrif.

Gweler yr adroddiad ansawdd am ragor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru