Apwyntiadau arbenigol gydag optometrydd presgripsiynu (WGOS 5) yn ôl lleoliad y gwasanaeth, y math o apwyntiad a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Data newydd wedi'i ychwanegu ar gyfer 2025-26.
- 9fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwyno Ffurflenni Microsoft
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2024 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 1bf80f79-aec0-4333-a452-b3cbace2ef2a
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 5 yng Nghymru yn ôl lleoliad y gwasanaeth, math o apwyntiad a bwrdd iechyd.
Mae WGOS 5 yn darparu gwasanaethau gofal llygaid ym maes gofal sylfaenol sy'n gofyn am optometrydd presgripsiynu annibynnol i reoli, trin a monitro cleifion i atal atgyfeiriad ymlaen.
Mae'r set ddata yn rhoi mewnwelediad i ble y caiff apwyntiadau eu cynnal a sut y mae gweithgarwch yn amrywio ar draws mathau o apwyntiadau, byrddau iechyd, a thros amser.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff hawliadau WGOS 5 eu cyflwyno'n electronig drwy ffurflenni Microsoft i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG a'u lanlwytho i'w system taliadau K2.
Caiff apwyntiadau eu grwpio yn ôl lleoliad y gwasanaeth (yn y cartref neu mewn pratics optometrig), y math o apwyntiad (cychwynnol neu ddilynol), bwrdd iechyd, a blwyddyn ariannol. Cyfrifir y niferoedd ar gyfer pob cyfuniad, ac mae cyfansymiau wedi'u cynnwys i helpu i ddehongli ar draws categorïau.
Mae apwyntiadau cychwynnol yn cynnwys nifer fach o apwyntiadau ‘rhyddhau cychwynnol o'r GIGE (HES)’.
- Ansawdd ystadegol
Nid yw data blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn uniongyrchol gymaradwy â data blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymlaen, gan fod WGOS 5 wedi’i gyflwyno ar adegau gwahanol ar draws byrddau iechyd yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru