Amcangyfrif o nifer yr apwyntiadau a fynychwyd mewn practisau cyffredinol yn ôl categori'r apwyntiad, ardal a mis

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
71 o 71 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Categoti yr apwyntiad
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dyddiad
54 o 54 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mawrth 2026

Diweddariadau

26ain Mawrth 2026

Metadata wedi'i ddiwygio

26ain Mawrth 2026

Data newydd wedi'i ychwanegu

16eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol
Cyfnod amser dan sylw
Hydref 2021 i Rhagfyr 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae hyn yn dangos y nifer amcangyfrifedig misol o apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol yn ôl categori’r apwyntiad (dull o ymgynghori, math o ymarferydd a’r rheswm dros yr apwyntiad), mesur (nifer yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol neu nifer cyfartalog yr apwyntiadau lle’r oedd y claf yn bresennol fesul diwrnod gwaith) ac ardal (bwrdd iechyd a chlwstwr).

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r term ‘apwyntiad’ yn cyfeirio at yr holl weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion a gofnodir yn llyfr apwyntiadau practis cyffredinol. Bydd mwyafrif helaeth y gweithgareddau a gofnodir yn apwyntiadau traddodiadol lle mae claf yn cael ymgynghoriad â meddyg teulu, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol arall. Bydd y term hefyd yn cwmpasu rhai gweithgareddau eraill y mae staff yn eu cyflawni ar gyfer cleifion, ond heb gynnal ymgynghoriad (fel adolygiad o feddyginiaethau) os byddant wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau. Ni fydd yn cwmpasu unrhyw weithgareddau sy’n gysylltiedig â chleifion nad ydynt wedi’u cofnodi yn y llyfr apwyntiadau.

Fel rhan o brosiect gwella ansawdd data gweithgareddau’r Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd (QAIF) ar gyfer 2021-22, gofynnwyd i bractisau gategoreiddio apwyntiadau yn ôl dull, math o ymarferydd a rheswm dros yr ymgynghoriad gan ddefnyddio’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol. Daeth yn ofynnol i bractisau ymgymryd â’r ymarfer hwn ar gyfer data o fis Gorffennaf 2022 ymlaen.

Apwyntiadau wyneb yn wyneb yw’r rhai lle mae’r claf yn bresennol yn bersonol yn y practis. Apwyntiadau o bell yw’r rhai a gynhelir dros y ffôn neu drwy alwad fideo. Bydd apwyntiadau ymweliadau â’r cartref yn cynnwys apwyntiadau lle mae staff y practis yn ymweld â phreswylfa’r claf sy’n cynnwys sefydliadau byw cymunol fel cartrefi nyrsio.

Dylai apwyntiadau â meddyg teulu ac â phresgripsiynydd annibynnol gwmpasu apwyntiadau â phob math o feddygon teulu, gan gynnwys cofrestryddion mewn practis cyffredinol, yn ogystal ag apwyntiadau â staff fel uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr a ffisiotherapyddion sydd wedi cymhwyso i roi presgripsiynau fel y diffinnir gan Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru.

Dylai apwyntiadau â nyrsys, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, neu â rolau clinigol eraill gwmpasu apwyntiadau â staff clinigol sydd wedi cofrestru â chorff proffesiynol (er enghraifft, nyrsys sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth) ond nad ydynt wedi cymhwyso i roi presgripsiynau. Ni ddylent gynnwys enghreifftiau o ryngweithio â staff gweinyddol neu staff cymorth anghlinigol.

Mae apwyntiadau sy’n cael eu dosbarthu yn ôl eu rheswm yn rhai ar gyfer cyflyrau cronig, a gynlluniwyd, neu gyflyrau nad ydynt yn acíwt fel arfer yn rhai ar gyfer cyflyrau sy’n bodoli eisoes ac sy’n barhaus ers cyfnod hirach o amser ac maen nhw’n cael eu rheoli fel clefydau cronig. Ar y llaw arall, mae cyflyrau brys neu acíwt fel arfer yn rhai sydd wedi digwydd dros y tymor byr. Gall rheswm claf dros drefnu apwyntiad fod yn gymhleth a dylai staff sy’n cofnodi’r wybodaeth hon farnu yn y ffordd orau wrth gategoreiddio’r rheswm dros yr apwyntiad. Fel arfer, byddai hyn yn cael ei wneud gan aelod gweinyddol o staff am resymau clinigol ac yn amodol ar gael ei newid, yn dilyn cyngor gan y gweithiwr iechyd proffesiynol sy’n darparu’r apwyntiad neu reolwr y practis.

Ansawdd ystadegol

Nid yw’r data a gyflwynir i’r Porth Gwybodaeth Gofal Sylfaenol (PCIP) yn cael eu diwygio fel mater o drefn, ond gall practisau ail-gategoreiddio data apwyntiadau yn ôl-weithredol ar gyfer y dull ymgynghori, math o ymgynghoriad a’r rheswm dros yr apwyntiad ar unrhyw amser. Nid oes cyfyngiad ar ba mor bell yn ôl y gall practisau adolygu data a byddai unrhyw ddata a adolygwyd yn cael eu cynnwys yn PCIP y diwrnod canlynol.

Y bwriad yw y bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn prosesu data y 12 mis blaenorol ar yr un pryd â phob cyhoeddiad ystadegol chwarterol. Mae hyn yn golygu y gall y data a gyhoeddwyd ar gyfer y 12 mis blaenorol gael eu hadolygu. Bydd unrhyw adolygiadau mawr yn cael eu hamlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Ni fydd data cyhoeddedig, o gyfnodau amser sy’n fwy na 12 mis cyn y cyfnod cyfeirio yn cael eu hadolygu oni bai bod gwall yn cael ei ddarganfod. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yr adolygiad hefyd yn cael ei amlygu yn y datganiadau ystadegol a’r tablau data.

Mae rhaglen ar y gweill i gyflwyno un system apwyntiadau i bob practis yng Nghymru, y bwriedir ei chwblhau erbyn haf 2026. Mae hyn yn golygu bod rhai practisau wedi trosglwyddo systemau o amgylch dyddiadau cyfeirio’r data, a allai arwain at faterion ychwanegol o ran ansawdd y data. Pan nodir bod materion o ran ansawdd y data, maent yn cael eu rhannu ag Iechyd a Gofal Digidol Cymru sy'n gweithio gyda’r byrddau iechyd a’r practisau i wella ansawdd y data. Mae'r ystadegau ar gyfer y chwarter mwyaf diweddar yn seiliedig ar y data fel y'u cofnodwyd i gychwyn. Mae data anghywir fel arfer yn cael eu golygu yn y data ffynhonnell ar ôl eu cyhoeddi ac adolygir yr ystadegau wedi hynny yn y cyhoeddiad ar gyfer y chwarter dilynol.

Mae’r data ar gyfer y cyfnod o fis Ionawr i fis Medi 2025 wedi’u hadolygu yn unol â’n polisi ar adolygiadau a gynlluniwyd. Roedd newidiadau bach ar lefel Cymru gyfan, ac roedd y newidiadau yn amrywio rhwng 0.1% a 2.7% ar gyfer data apwyntiadau.

Bydd y data ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill i fis Rhagfyr 2025 yn cael eu hadolygu yn y cyhoeddiad nesaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru