Rhaglen Plentyn Iach Cymru: canran y plant cymwys sydd â chysylltiadau wedi’u cofnodi, yn ôl chwarter, bwrdd iechyd lleol ac awdurdod lleol, Ebrill 2019 ymlaen
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
| Newidyn | Gwelededd | Gwerthoedd a ddewiswyd | Gweithred |
|---|---|---|---|
| Disgrifiad o’r data | Wedi'i ddangos yn y tabl | Canran | Ni ellir newid y gwerth |
| Chwarter | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 27 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Ardal | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 30 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Cyswllt | Wedi'i ddangos yn y tabl | Pob un o'r 9 gwerth | Newid gwerthoedd |
| Gwerthoedd data | Disgrifiad o’r data | Chwarter | Ardal | Cyswllt |
|---|---|---|---|---|
| 96.4 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Cyswllt yn 10-14 diwrnod |
| 78.9 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Arholiad corfforol yn 6 wythnos |
| 88.7 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Pwysau a mesuriadau yn 8 wythnos |
| 82.3 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Pwysau a mesuriadau yn 12 wythnos |
| 82.7 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Pwysau a mesuriadau yn 16 wythnos |
| 93.6 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Cyswllt yn 6 mis |
| 90.9 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Cyswllt ag ymwelydd iechyd yn 15 mis |
| 89.3 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Cyswllt ag ymwelydd iechyd yn 27 mis |
| 80.2 | Canran | Ch4 2025 | Cymru | Cyswllt yn 3.5 oed cyn-ysgol |
| 95.3 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Cyswllt yn 10-14 diwrnod |
| 88.6 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Arholiad corfforol yn 6 wythnos |
| 89.9 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Pwysau a mesuriadau yn 8 wythnos |
| 88.6 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Pwysau a mesuriadau yn 12 wythnos |
| 92.0 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Pwysau a mesuriadau yn 16 wythnos |
| 92.8 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Cyswllt yn 6 mis |
| 87.0 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Cyswllt ag ymwelydd iechyd yn 15 mis |
| 87.3 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Cyswllt ag ymwelydd iechyd yn 27 mis |
| 79.3 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Cyswllt yn 3.5 oed cyn-ysgol |
| 95.4 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Cyswllt yn 10-14 diwrnod |
| 83.9 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Arholiad corfforol yn 6 wythnos |
| 90.6 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Pwysau a mesuriadau yn 8 wythnos |
| 88.4 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Pwysau a mesuriadau yn 12 wythnos |
| 90.7 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Pwysau a mesuriadau yn 16 wythnos |
| 97.0 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Cyswllt yn 6 mis |
| 84.2 | Canran | Ch4 2025 | Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys | Cyswllt ag ymwelydd iechyd yn 15 mis |
Disgwylir y diweddariad nesaf:19 Tachwedd 2025
Diweddariadau
- 20ain Mai 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.
- 6ed Mai 2026
Tynnwyd y côd llaw fer [t] o’r data.
- 25ain Chwefror 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.
- 19eg Tachwedd 2025
- 7fed Tachwedd 2025
- 6ed Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Gwybodaeth reoli
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2019 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu naw cyswllt â gweithwyr iechyd proffesiynol, ar bwyntiau penodol, ar gyfer plant yng Nghymru rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Dylai byrddau iechyd lleol gynnig y cysylltiadau hyn i bob plentyn yng Nghymru.
Ffynhonnell y data yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD); yn gronfa ddata a sefydlwyd ac sy'n cael ei rhedeg gan DHCW. Mae'r data'n cael ei echdynnu o gronfeydd data'r System Iechyd Plant a gedwir gan (Bwrdd Iechyd Lleol) BILlau.
- Cyfrifo neu gasglu data
Yn y set ddata hon, mae chwarter yn cyfeirio at chwarter blwyddyn galendr.
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.
Mae'r awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y set ddata hon yn ymwneud ag ardal breswyl y plentyn, felly bydd y cyfansymiau'n wahanol i'r cyfansymiau a ddangosir mewn setiau data chwarterol sy'n seiliedig ar fwrdd iechyd y darparwr gwasanaeth.
- Ansawdd ystadegol
Effeithiwyd ar ddata o Ch1 2020 (Ionawr i Mawrth 2020) ymlaen gan bandemig COVID-19. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd llawer o ymwelwyr iechyd eu hadleoli i weithio mewn ysbytai, a chynghorwyd byrddau iechyd i flaenoriaethu dim ond y cysylltiadau 10 i 14 o ddiwrnodau, cysylltiadau 6 wythnos, ac yn ddiweddarach, cysylltiadau 6 mis. Cynhaliwyd cysylltiadau eraill pan oedd hynny’n bosibl, yn aml dros y ffôn neu yn rhithwir, ond nid oedd y rhain bob amser yn cael eu cofnodi yn y ffordd arferol. Cadarnhaodd canllawiau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2020, y blaenoriaethu hwn, a rhoddwyd cyngor pellach ym mis Mai i adfer cysylltiadau ychwanegol yn raddol ac i ddychwelyd i’r amserlen lawn ym mis Awst. Fodd bynnag, wrth i gyfraddau heintio godi eto ym mis Rhagfyr 2020, dywedwyd wrth fyrddau iechyd i asesu’r risg a oedd yn gysylltiedig â lleihau gwasanaethau, wrth barhau i gynnal y cysylltiadau allweddol ar 10 i 14 o ddiwrnodau, 6 wythnos a 6 mis. Dylid dehongli data ar gyfer y cyfnod hwn gan gofio am y newidiadau hyn.
Cynghorir gofal wrth ddehongli data ar gyfer yr apwyntiad meddyg teulu 6 wythnos a'r apwyntiad imiwneiddio 8 wythnos, gan fod problem ansawdd data hysbys. Mae'r data a gyflwynir yn is-gyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol sy'n digwydd. Mae’r mater oherwydd nad yw'r broses casglu data ar bapur yn cael ei gweithredu'n llawn. Cymerwyd camau i wella ansawdd data, a bydd mesurau pellach yn parhau i gael eu gweithredu nes i’r data fod yn fwy dibynadwy.
Mae mater ansawdd data hysbys ar gyfer data Ch2 2022 (Ebrill i Mehefin 2022). Mae canran y plant sy’n cael cyswllt gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ym mhob pwynt cyswllt, ar wahân i’r pwynt 6 wythnos, yn dangyfrif o’r gwir weithgarwch a ddigwyddodd. Mae’r mater hwn wedi’i achosi gan oedi o ran prosesu ffurflenni casglu data yn y bwrdd iechyd ac mae’r bwrdd iechyd yn gweithio i’w ddatrys. Effeithir hefyd ar y ffigurau cyffredinol ar gyfer Cymru. Mae’n bosibl y bydd y data wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad nesaf.
Mae mater ansawdd data yn ystod o Ch1 2024 (Ionawr i Mawrth 2024). Bu streiciau gan ymwelwyr iechyd ar 26 Chwefror 2024 ym mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a oedd yn cynnwys peidio â rhoi unrhyw ddata ystadegol ar gyfer y bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru. Efallai bod hyn wedi effeithio ar y ffigurau ar gyfer o Ch1 2024 (Ionawr i Mawrth 2024).
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru