Cyrsiau o driniaeth gyda thriniaethau corfforol a chyngor ataliol, yn ôl band triniaeth a math o gleifion

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math o gleifion
3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Band triniaeth
7 o 7 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Eitem glinigol
44 o 44 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Awst 2026

Diweddariadau

5ed Mawrth 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG
Ffynhonnell y data
Gwasanaethau deintyddol
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2019 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data hwn yn dangos nifer (a chanran) y cyrsiau o driniaeth gyda thriniaethau corfforol a chyngor ataliol.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r data'n deillio o ffurflenni gweithgaredd deintyddol a gyflwynir ar gyfer taliad ac a brosesir gan Wasanaethau Deintyddol Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig.

Weithiau gwneir newidiadau i'r rhan data clinigol o'r ffurflen FP17W. Fel arfer, mae eitemau set data clinigol blaenorol yn cael eu diddymu'n raddol ac ychwanegir eitemau newydd; bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn y data dros amser.

Oherwydd y gallai cwrs o driniaeth fod wedi dechrau cyn y flwyddyn ariannol y mae'n berthnasol iddi, gall data ymddangos ar gyfer eitemau clinigol sydd wedi dod i ben. Er enghraifft, daeth graddfa a sglein i ben ym mis Ebrill 2020, ond mae yna gyrsiau o driniaeth â graddfa a sglein sy'n ymwneud â blynyddoedd dilynol a ddechreuodd cyn Ebrill 2020.

Mae data ar gyfer yr holl eitemau cyngor ataliol ar gael o 2022-23 ymlaen.

Gall ffurflen FP17W gael mwy nag un eitem glinigol wedi'i chofnodi. Felly ni fydd swm yr eitemau clinigol yn cyfateb i nifer y cyrsiau triniaeth.

Mae'r data hwn yn disodli ciwbiau blaenorol StatsCymru yn ymwneud â gweithgarwch clinigol. Roedd data mewn ciwbiau StatsCymru blaenorol yn seiliedig ar fandiau triniaeth 1 i 3 a brys yn unig; mae'r data hwn yn cynnwys pob band triniaeth.

Ansawdd ystadegol

Gallwch chi weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol perthnasol trwy ddilyn y ddolen we.

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru