Darpariaeth tai fforddiadwy ychwanegol yn ôl lleoliad, darparwr, cyllid a'r math o gyflenwi
Disgwylir y diweddariad nesaf:Tachwedd 2026
Diweddariadau
- 13eg Tachwedd 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdodau Lleol
- Ffynhonnell y data
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2019 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r data'n cynrychioli niferoedd yr unedau ychwanegol a ddarperir neu sydd ar y gweill bob blwyddyn, ac mae'n cynnwys gweithgaredd gan yr awdurdodau lleol eu hunain, yn ogystal â gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (RSLs) a datblygwyr sector preifat neu wirfoddol eraill sy'n gweithredu ym mhob ardal.
Mae'r set ddata hon yn canolbwyntio ar unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir, ac mae'r rhain yn cael eu diffinio fel y rhai a ddarparwyd trwy gynlluniau adeiladau newydd neu drwy brynu, prydlesu neu drosi unedau presennol. Felly, mae hyn yn hepgor unedau fforddiadwy presennol sydd wedi'u hadnewyddu neu eu hailwampio gan nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel unedau ychwanegol. Fodd bynnag, lle mae uned bresennol wedi'i throsi yn ddwy uned ar wahân, mae hyn yn cynrychioli uned fforddiadwy ychwanegol. I'r gwrthwyneb, os oedd yna golled net o unedau fforddiadwy mewn eiddo dros flwyddyn, ni ddarparwyd unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol. Er enghraifft, pe bai dwy fflat annibynnol mewn un eiddo yn cael eu trosi i fod yn un cartref teuluol, nodir bod nifer yr unedau ychwanegol yn sero, er y dylid nodi nad yw hyn yn cael ei gofnodi fel newid negyddol i nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd.
Yn y cyd-destun hwn, mae darparu yn golygu bod yr uned wedi'i chwblhau ac ar gael i fyw ynddi.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan landlordiaid cymdeithasol Cymru (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ar y ddarpariaeth tai fforddiadwy wirioneddol yn ystod pob blwyddyn.
- Ansawdd ystadegol
Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir:
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.tai@llyw.cymru