Staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG yn ôl grŵp staff a sefydliad

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Dyddiad
46 o 46 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Sefydliad
16 o 16 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Grwp staff
9 o 9 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ionawr 2026

Diweddariadau

19eg Mai 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.

12fed Chwefror 2026

Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys data’r chwarter diweddaraf.

12fed Rhagfyr 2025

Gweler Ansawdd Ystadegol.

5ed Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data 1
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Ffynhonnell y data 1
Gwasanaethau’r Gweithlu
Darparwr data 2
Addysg a Gwella Iechyd Cymru
Ffynhonnell y data 2
Cofnod staff electronig y GIG

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Cyfrif aseiniad a chyfwerth ag amser llawn o staff y GIG a gyflogir yn uniongyrchol yn ôl gradd a maes gwaith. Mae Ymarferwyr Meddygol a Deintyddol Cyffredinol yn cael eu hepgor gan eu bod yn gontractwyr annibynnol.

Cyfrifo neu gasglu data

Wedi'i echdynnu o system Cofnod Staff Electronig y GIG. Mae grwpiau staff a meysydd gwaith yn cael eu pennu o godau galwedigaethol y GIG - i gael mwy o fanylion, dilynwch y ddolen i'r llawlyfr.

Ansawdd ystadegol

Gweler adroddiad ansawdd – dolen yn dolenni'r we

Cafodd y data a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar gyfer pob sefydliad ar 30 Gorffennaf 2025, ar gyfer dyddiad cyfeirio 31 Mawrth 2025, ei ddiwygio ar 02 Hydref 2025 ar ôl darganfod gwall yn y data ffynhonnell. Cafodd data ar gyfer yr un cyfnod ei adolygu ar 5 Tachwedd 2025 ar gyfer Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar ôl darganfod gwall prosesu a arweiniodd at nodi bod holl staff y sefydliadau hyn yn staff Partneriaeth Cydwasanaethau’r GIG. Nid oedd effaith ar unrhyw un sefydliad arall nac ar y data ar lefel Cymru. Cafodd data ar gyfer yr un cyfnod ei ddiwygio hefyd ar 12 Rhagfyr 2025 ar ôl darganfod problem a achoswyd gan god gradd newydd ym Mwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Nid oedd effaith ar unrhyw un sefydliad arall nac ar y data ar lefel Cymru.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae swyddi cyfwerth ag amser llawn wedi'u talgrynnu i 1 lle degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru