Plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 26ain Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
- Darparwr data
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ffynhonnell y data
- Aelwydydd islaw'r incwm cyfartalog, Arolwg adnoddau teuluol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2007 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r tabl hwn yn dangos plant mewn tlodi incwm cymharol yn ôl statws economaidd yr aelwyd. Mae’r data wedi’i rannu’n grŵp: Aelwydydd sy'n gweithio ac Aelwydydd heb waith. Rhennir aelwydydd sy’n gweithio ymhellach mewn i’r rhai lle mae pob oedolyn yn gweithio a’r rhai lle mae rhai (ond nid pob un) oedolyn yn gweithio.
Mae'r ffigyrau a ddangosir ar gyfer cyfartaledd newidiol 3 blynedd.
Mae'r tabl hwn yn cyflwyno data ar yr holl blant sy'n byw mewn cartrefi sydd ag incwm aelwyd islaw 60 y cant o ganolrif incwm aelwydydd y DU ar ôl i gostau tai gael eu talu.
Cyflwynir y ffigurau mewn tair ffordd:
- Mae risg yn mesur cyfran y plant gyda'r nodwedd benodol mewn tlodi incwm cymharol fel canran o'r holl blant gyda'r nodwedd benodol
- nifer: yn amcangyfrif o sawl plentyn â’r nodwedd benodol sydd mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru
- cyfansoddiad: yn mesur cyfran y plant mewn tlodi incwm cymharol gyda’r nodwedd benodol fel canran o blant mewn tlodi
- Cyfrifo neu gasglu data
Darparwyd y data gan tim Aelwydydd Islaw'r Incwm Cyfartalog yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Ceir crynodeb o wybodaeth ynghylch beth i gadw mewn cof wrth ddehongli’r ystadegau hyn ar dudalen y gyfres ar dlodi incwm cymharol.
- Ansawdd ystadegol
Mae'r ffigurau hyn yn seiliedig ar ganlyniadau'r FRS sy'n seiliedig ar sampl fach i Gymru (tua 1,200 o aelwydydd yn FYE 2025). Rydym yn cynghori gofal wrth edrych ar newidiadau o flwyddyn i flwyddyn gan nad yw'r rhain yn debygol o fod yn ystadegol arwyddocaol. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: methodoleg.
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn newid sut mae ystadegau'r Arolwg Adnoddau Teulu yn cael eu cynhyrchu i wella ystadegau tlodi. Gwybodaeth am brif fudd-daliadau'r wladwriaeth a chredydau treth bellach yn seiliedig ar ddata gweinyddol yn hytrach nag ymatebion arolwg. Mae'r newid hwn yn berthnasol o flwyddyn ariannol sy'n dod i ben (FYE) 2022 ymlaen. O ganlyniad, mae'r cyfartaledd 3 blynedd gyntaf a gynhyrchir ar y sail newydd yn cwmpasu FYE 2021 i FYE 2023 (oherwydd materion sy'n effeithio ar FYE 2021). Mae mesurau incwm isel allweddol ar ôl y pwynt hwn wedi newid, gan greu toriad yn y gyfres ddata yn y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2022. Ni ddylai defnyddwyr wneud cymariaethau uniongyrchol o'r mesurau incwm isel ar draws y toriad hwn. I gael gwybodaeth fanylach am y fethodoleg ewch i dudalen Tlodi incwm cymharol: Ebrill 2024 i Fawrth 2025.
Mae amcangyfrifon FYE 2021 yn annibynadwy gan eu bod yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod blwyddyn gyntaf pandemig y coronafeirws (COVID-19), pan wnaeth rheolau'r cyfyngiadau symud amharu'n ddifrifol ar y casglu data. Nid yw amcangyfrifon ar gyfer cyfnodau sy'n rhychwantu'r flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2021 yn cynnwys y data a gasglwyd yn ystod FYE 2021 mewn cyfrifiadau.
Roedd y casgliad o ddata yn ystod y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben (FYE) 2022 drwy gyfweliadau ffôn yn hytrach na'r dull wyneb yn wyneb sefydledig a ddefnyddiwyd cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19). Er ein bod wedi asesu ansawdd data FYE 2022 i fod yn ddigon cadarn i'w gyhoeddi, mae rhywfaint o ragfarn weddilliol o hyd yn sampl yr arolwg sy'n deillio o'r newid yn y modd arolygu. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd data ar gael yn adroddiad technegol yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n cyd-fynd â rhyddhau ystadegau FYE 2022.
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae’r holl ffigurau a ddangosir wedi’u talgrynnu i’r 10 mil agosaf o unigolion neu bwynt canran cyflawn.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru