Tai fforddiadwy a ddarparwyd drwy rwymedigaethau cynllunio ac ar safleoedd eithriedig yn ôl awdurdod a'r math o gynllunio

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod
18 o 18 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod
28 o 28 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Math cynllunio
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Tachwedd 2026

Diweddariadau

13eg Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdodau Lleol
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2007 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn ymwneud â nifer yr unedau tai fforddiadwy ychwanegol sy'n cael caniatâd cynllunio a nifer yr unedau ychwanegol a ddarperir ym mhob ardal awdurdod lleol bob blwyddyn. Yr awdurdodau cynllunio yng Nghymru yw'r 22 o awdurdodau lleol a'r 3 awdurdod parc cenedlaethol. Y data a ddangosir yw nifer yr unedau tai fforddiadwy sy'n cael caniatâd cynllunio ac a ddarperir o dan rwymedigaethau cynllunio ac ar safleoedd eithriadau tai fforddiadwy.

Mae'r set ddata hon yn canolbwyntio ar unedau tai fforddiadwy ychwanegol a ddarperir ar dir a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae'r rhain yn cael eu diffinio fel y rhai a ddarparwyd trwy gynlluniau adeiladau newydd neu drwy brynu, prydlesu neu drosi unedau presennol. Felly, mae hyn yn hepgor unedau fforddiadwy presennol sydd wedi'u hadnewyddu neu eu hailwampio gan nad ydynt yn cael eu dosbarthu fel unedau ychwanegol. Fodd bynnag, lle mae uned bresennol wedi'i throsi yn ddwy uned ar wahân, mae hyn yn cynrychioli uned fforddiadwy ychwanegol. I'r gwrthwyneb, os oedd yna golled net o unedau fforddiadwy mewn eiddo dros flwyddyn, ni ddarparwyd unrhyw unedau tai fforddiadwy ychwanegol. Er enghraifft, pe bai dwy fflat annibynnol mewn un eiddo yn cael eu trosi i fod yn un cartref teuluol, nodir bod nifer yr unedau ychwanegol yn sero, er y dylid nodi nad yw hyn yn cael ei gofnodi fel newid negyddol i nifer yr unedau ychwanegol a ddarparwyd.

Yn y cyd-destun hwn, mae darparu yn golygu bod yr uned wedi'i chwblhau ac ar gael i fyw ynddi.

Ystyr rhwymedigaethau cynllunio (neu gytundebau Adran 106) yw trefniadau i oresgyn rhwystrau a all atal caniatâd cynllunio. Gallant gael eu defnyddio i wrthbwyso canlyniadau negyddol datblygu, i helpu i ddiwallu anghenion lleol neu sicrhau buddion a fyddai'n gwneud datblygiad yn fwy cynaliadwy.

Mae safleoedd eithriadau tai fforddiadwy yn safleoedd tai ar raddfa fach, yn aml mewn neu yn ymyl setliadau presennol ar gyfer darparu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion lleol, na fyddent yn cael eu dyrannu yn y cynllun datblygu fel arall.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cael ei chasglu trwy ffurflenni blynyddol gan awdurdodau cynllunio yng Nghymru ar y ddarpariaeth tai fforddiadwy a ddarperir bob blwyddyn.

Ansawdd ystadegol

Gallwch weld y wybodaeth hon yn y cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig trwy ddilyn y ddolen we a roddir:

Adroddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.tai@llyw.cymru