Bwydo ar y fron adeg genedigaeth yn ôl y math o fwydo ar y fron a chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Blwyddyn
6 o 6 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws bwydo ar y fron
6 o 6 wedi'u dewis
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 6 gwerthNewid gwerthoedd
Chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd
Statws bwydo ar y fronWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 6 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataBlwyddynChwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog CymruStatws bwydo ar y fron
26,944Nifer2024Pob CymruCyfanswm
15,387Nifer2024Pob CymruBwydo ar y fron yn unig
15,923Nifer2024Pob CymruUnrhyw fwydo ar y fron
8,942Nifer2024Pob CymruDdim yn bwydo ar y fron
2,079Nifer2024Pob CymruHeb ei nodi
24,865Nifer2024Pob CymruCofnodion â data dilys
6,659Nifer20241Cyfanswm
3,072Nifer20241Bwydo ar y fron yn unig
3,237Nifer20241Unrhyw fwydo ar y fron
2,932Nifer20241Ddim yn bwydo ar y fron
490Nifer20241Heb ei nodi
6,169Nifer20241Cofnodion â data dilys
5,574Nifer20242Cyfanswm
2,985Nifer20242Bwydo ar y fron yn unig
3,085Nifer20242Unrhyw fwydo ar y fron
2,104Nifer20242Ddim yn bwydo ar y fron
385Nifer20242Heb ei nodi
5,189Nifer20242Cofnodion â data dilys
5,317Nifer20243Cyfanswm
3,147Nifer20243Bwydo ar y fron yn unig
3,260Nifer20243Unrhyw fwydo ar y fron
1,605Nifer20243Ddim yn bwydo ar y fron
452Nifer20243Heb ei nodi
4,865Nifer20243Cofnodion â data dilys
4,796Nifer20244Cyfanswm
Yn dangos 1 i 25 o 504 rhes
Page 1 of 21

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Gorffennaf 2026

Diweddariadau

19eg Rhagfyr 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2019 i Rhagfyr 2024

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron adeg eu geni yn ôl y math o fwydo ar y fron a chwintel Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Mae'r ystadegau hyn yn deillio o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol lle cymerir y data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed ac maent yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Darperir y data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Mae’r canrannau yn cynrychioli cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron. Mae cyfanswm nifer y cofnodion o ran cyfrifiadau canran ar gyfer ‘genedigaeth’ yn cyfeirio at bob genedigaeth fyw.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau. Fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

Ansawdd ystadegol

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd wneud newidiadau i ddata ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Mae data bwydo ar y fron ar bob pwynt mewn amser yn destun materion o ran ansawdd y data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn. Nid oes gan bob cofnod yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron. Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2024, roedd fel a ganlyn:

  • 92% ar adeg genedigaeth
  • 88% yn 10 diwrnod
  • 79% yn chwe wythnos
  • 78% yn 6 mis.

Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd..

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru