Cynhyrchu Ynni Carbon Isel

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Blwyddyn
8 o 8 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Technoleg
14 o 14 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:2027

Diweddariadau

2ail Medi 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Dim dynodiad
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Cynhyrchu Ynni yng Nghymru
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2017 i Rhagfyr 2024
ID y set ddata
155d1692-2002-40f1-90d7-106fa55fc53e

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Data blynyddol ar fentrau ynni carbon isel ledled Cymru, yn ôl awdurdod lleol.

Cyfrifo neu gasglu data

Cyfrifwyd, lluniwyd a chyhoeddwyd y data gan Regen ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r data yn cyfuno gwybodaeth o setiau data gweinyddol presennol, gan gynnwys data gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net (DESNZ) a data o gynlluniau’r llywodraeth, yn ogystal â data cysylltiadau gan Weithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu (DNOs) a gwybodaeth a gasglwyd drwy gysylltu â gosodwyr a sefydliadau’r diwydiant.

Ansawdd ystadegol

Ar gyfer nifer fach o brosiectau ynni carbon isel, nid yw’n bosibl nodi’r awdurdod lleol. Yn yr achosion hyn, caiff y prosiectau eu cynnwys o dan gategori ‘anhysbys’, ond cânt eu cynnwys yng nghyfanswm Cymru.

Cyhoeddwyd y data hyn hefyd yn Adroddiad Cynhyrchu a Defnyddio Ynni Cymru: Argraffiad Cyfunol Cyntaf. Cafodd ffigurau 2024 o’r adroddiad hwn eu diwygio ym mis Awst 2026 i adlewyrchu newidiadau i’r data sylfaenol. Ni wnaeth y diwygiadau hyn effeithio ar y set ddata StatsCymru hon, gan iddi gaeli ei chreu a'i chyhoeddi ar ôl i’r newidiadau gael eu nodi a’u gweithredu yn yr adroddiad.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae’r data wedi’u talgrynnu i ddim lle degol. O ganlyniad, mae’n bosibl na fydd cyfanswm nifer y prosiectau ar lefel awdurdod lleol yn cyfateb i gyfanswm Cymru.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru