Amcangyfrifon ardrethi annomestig

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhes
27 o 27 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod Lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mai 2026

Diweddariadau

14eg Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol
Darparwr data
Awdurdodau Lleol
Ffynhonnell y data
Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2015 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r ystadegau hyn yn rhoi manylion y symiau o ardrethi annomestig fydd yn cael eu casglu yn y flwyddyn ariannol yn ôl amcangyfrif yr awdurdodau lleol.

Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol y mae perchnogion neu feddianwyr (‘talwyr ardrethi’) eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu gwasanaethau lleol drwyddi.

Caiff y bil ardrethi annomestig ar gyfer pob eiddo ei gyfrifo drwy gymryd ei werth ardrethol a'i luosi â'r ‘lluosydd ardrethi annomestig' ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae gwahanol ryddhadau ar gael hefyd er mwyn helpu talwyr ardrethi. Os bydd talwr ardrethi yn gymwys i gael rhyddhad, bydd hyn hefyd yn lleihau'r bil ardrethi ar gyfer yr eiddo.

Caiff yr holl refeniw ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio ei dalu i ‘Gronfa Ardrethi Annomestig’ Llywodraeth Cymru. Caiff arian a gesglir o'r rhestr ganolog ei ychwanegu at y gronfa hon hefyd. Yna, caiff yr holl refeniw ei ddosbarthu i'r awdurdodau bilio fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn. Caiff y gronfa ei rhannu rhwng y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a’r pedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu a'i dosbarthu rhwng pob awdurdod yn ôl cyfrannau o'r boblogaeth oedolion.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma wedi'i chymryd o'r datganiadau ariannol NDR1 blynyddol a gyflwynwyd gan y 22 awdurdod bilio yng Nghymru.

Ansawdd ystadegol

Mae gwybodaeth lawn am ansawdd y data sy'n ymwneud â'r holl gyhoeddiadau Cyllid Llywodraeth Leol ar gael yn yr adroddiad ansawdd ystadegol

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
localtaxationpolicy@llyw.cymru