Bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi, y math o fwydo ar y fron a’r bwrdd iechyd lleol

Hidlwyr

Blwyddyn
10 o 10 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
11 o 11 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Oedran y babi
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Statws bwydo ar y fron
5 o 5 wedi'u dewis
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
BlwyddynWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 10 gwerthNewid gwerthoedd
ArdalWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 11 gwerthNewid gwerthoedd
Oedran y babiWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 4 gwerthNewid gwerthoedd
Statws bwydo ar y fronWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 2 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [z] = amherthnasol.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataBlwyddynArdalOedran y babiStatws bwydo ar y fron
33,004Nifer2016CymruGeniCyfanswm
[z]Canran2016CymruGeniCyfanswm
13,704Nifer2016CymruGeniBwydo ar y fron yn unig
45.7Canran2016CymruGeniBwydo ar y fron yn unig
18,254Nifer2016CymruGeniUnrhyw fwydo ar y fron
60.9Canran2016CymruGeniUnrhyw fwydo ar y fron
11,722Nifer2016CymruGeniDdim yn bwydo ar y fron
39.1Canran2016CymruGeniDdim yn bwydo ar y fron
3,028Nifer2016CymruGeniHeb ei nodi
9.2Canran2016CymruGeniHeb ei nodi
32,905Nifer2016Cymru10 diwrnod oedCyfanswm
[z]Canran2016Cymru10 diwrnod oedCyfanswm
10,667Nifer2016Cymru10 diwrnod oedBwydo ar y fron yn unig
33.7Canran2016Cymru10 diwrnod oedBwydo ar y fron yn unig
14,442Nifer2016Cymru10 diwrnod oedUnrhyw fwydo ar y fron
45.6Canran2016Cymru10 diwrnod oedUnrhyw fwydo ar y fron
17,205Nifer2016Cymru10 diwrnod oedDdim yn bwydo ar y fron
54.4Canran2016Cymru10 diwrnod oedDdim yn bwydo ar y fron
1,258Nifer2016Cymru10 diwrnod oedHeb ei nodi
3.8Canran2016Cymru10 diwrnod oedHeb ei nodi
32,873Nifer2016Cymru6 wythnos oedCyfanswm
[z]Canran2016Cymru6 wythnos oedCyfanswm
7,190Nifer2016Cymru6 wythnos oedBwydo ar y fron yn unig
24.5Canran2016Cymru6 wythnos oedBwydo ar y fron yn unig
9,862Nifer2016Cymru6 wythnos oedUnrhyw fwydo ar y fron
Yn dangos 1 i 25 o 3,680 rhes
Page 1 of 148

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2027

Diweddariadau

7fed Gorffennaf 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
Ffynhonnell y data
Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
Cyfnod amser dan sylw
Ionawr 2016 i Rhagfyr 2025
ID y set ddata
11b0a4fe-c4dd-490b-b78b-e63d0281b91b

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Nifer a chanran y babanod sy’n cael eu bwydo ar y fron yn ôl oedran y babi, y math o fwydo ar y fron a’r bwrdd iechyd lleol.

Mae'r ystadegau hyn yn deillio o'r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol lle cymerir y data o ran bwydo ar y fron adeg genedigaeth ac ar gyfer babanod sy’n 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed ac maent yn cyfeirio at gofnodion lle cofnodwyd unrhyw fwydo ar y fron. Darperir y data hyn i Lywodraeth Cymru gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Sefydlwyd NCCHD yn 2004 ac mae’n cynnwys cofnodion dienw ar gyfer pob plentyn a gafodd ei eni, a fu’n preswylio neu a gafodd driniaeth yng Nghymru ac a gafodd ei eni ar ôl 1987. Mae’r gronfa ddata yn dwyn ynghyd ddata o gronfeydd data lleol y System Iechyd Plant Cymunedol sy’n cael eu cadw gan fyrddau iechyd lleol. Prif swyddogaeth y gronfa ddata yw darparu cofnod ar-lein o iechyd a gofal plentyn o adeg ei eni nes bydd yn cyrraedd oed gadael ysgol. Mae’r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y data a gofnodwyd adeg genedigaeth ac yn fuan wedi genedigaeth.

Mae manylion llawn pob eitem ddata sydd ar gael yn y set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol ar gael yng Ngeiriadur Data GIG Cymru.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cynnwys cofnodion ar gyfer pob plentyn sydd wedi’i eni, sy’n preswylio neu sy’n defnyddio gwasanaethau yn eu byrddau iechyd perthnasol. Mae hyn yn golygu bod y gronfa ddata yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth ar gyfer rhai plant nad ydynt yn preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, oni nodir yn wahanol, mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o ddata o’r gronfa ddata hon yn cael eu hidlo i gynnwys dim ond y plant hynny sydd wedi’u geni yng Nghymru.

Mae data ar fwydo ar y fron adeg genedigaeth, yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed yn cyfeirio at yr amser lle digwyddodd hynny, yn hytrach na phryd y cafodd y plentyn ei eni.

Mae’r canrannau yn adlewyrchu cyfanswm y cofnodion lle nodwyd statws bwydo ar y fron. Mae cyfanswm nifer y cofnodion ar gyfer cyfrifiadau canran ym mhob pwynt fel a ganlyn:

  • nifer y menywod a fydd yn rhoi genedigaeth ar gyfer ‘Bwriad i fwydo ar y fron’
  • pob genedigaeth fyw ar gyfer ‘genedigaeth’
  • y babanod sy’n cyrraedd yr oedran cyfeirio ar gyfer pob pwynt oedran arall.

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn cofnodi genedigaethau byw a marw-enedigaethau. Fodd bynnag, dim ond at enedigaethau byw y mae’r dadansoddiad hwn yn cyfeirio.

“Heb ei nodi” yn cynnwys data lle nad oedd yr ardal breswyl wedi’i nodi, a hefyd ardaloedd preswyl y tu allan i Gymru (h.y. mamau o Gymru sy’n byw mewn ardaloedd y tu allan i Gymru).

Ansawdd ystadegol

Mae’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol yn gronfa ddata fyw, sy’n golygu y gall byrddau iechyd wneud newidiadau i ddata ar gyfer unrhyw gyfnod. Ar gyfer yr ystadegau yn y datganiad hwn, mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cymryd dyfyniadau data o un pwynt penodol mewn amser, ar gyfer y flwyddyn galendr ddiweddaraf. Ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i ddata hanesyddol oni bai y caiff gwallau eu canfod.

Mae data bwydo ar y fron ar bob pwynt mewn amser yn destun materion o ran ansawdd y data gan fod gan rai mamau a babanod gofnodion anghyflawn.

Cesglir data bwydo ar y fron yn 10 diwrnod, yn 6 wythnos ac yn 6 mis oed pan fydd gan y plant apwyntiadau ag ymwelydd iechyd a meddyg teulu drwy Raglen Plant Iach Cymru. Os na fydd plentyn yn cael cyswllt o’r fath, mae’n bosibl y bydd data’r plentyn o ran bwydo ar y fron ar goll ar gyfer y pwynt cyswllt hwnnw. Nid oes gan bob cofnod yn y Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol gofnodion cyflawn ar gyfer statws bwydo ar y fron.

Mae’r gyfradd gyflawnrwydd yn gostwng gydag oedran y babi ac yn 2025, roedd fel a ganlyn:

  • 89% ar adeg genedigaeth
  • 91% yn 10 diwrnod
  • 88% yn chwe wythnos
  • 84% yn 6 mis.

Gellir dod o hyd i dabl cyflawnrwydd ar gyfer yr holl eitemau data a ddefnyddir yn y datganiad hwn o’r ddwy ffynhonnell ddata yn yr adroddiad ansawdd.

O 1 Ebrill 2019 ymlaen, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer preswylwyr awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Cwm Taf. Newidiodd enwau’r byrddau iechyd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Mae data ar gyfer Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar gael ar gyfer blynyddoedd blaenorol yn y tabl hwn. Mae gwybodaeth fanylach am y ffynonellau data a’r dadansoddiadau yn y datganiad ystadegol hwn ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru