Data dangosyddion Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 fesul Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (AGEHI) ac awdurdod lleol: maes addysg

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

3 o 3 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cod ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Enw ardal
1939 o 1939 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol

Diweddariadau

6ed Chwefror 2026

Newidiadau fformatio bach

16eg Rhagfyr 2025

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI.

27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
27ain Tachwedd 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data 1
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data 1
Cyfrifiad 2021
Darparwr data 2
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 2
Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC)
Darparwr data 3
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data 3
Cofnod Dysgu Gydol Oes Cymru (LLWR)
Darparwr data 4
Yr Adran Addysg
Ffynhonnell y data 4
Absenoliaeth a chyrhaeddiad disgyblion
Darparwr data 5
Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Ffynhonnell y data 5
Cofnod myfyrwyr

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).

Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 4 dangosydd sy'n ffurfio'r maes addysg. Mae pob dangosydd wedi'i dalgrynnu i un lle degol ar wahân i sgôr pwynt cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 sy'n cael ei dalgrynnu i rif cyfan.

Mae amcangyfrifon dangosyddion awdurdodau lleol wedi'u cynhyrchu lle mae'r data gwreiddiol yn caniatáu i’w hagregu i ddaearyddiaethau uwchben lefel ACEHI. Lle nad yw hyn yn bosibl ar gyfer dangosydd penodol, bydd cofnodion data awdurdod lleol yn dangos [x] yn y golofn Data.

Cyfrifo neu gasglu data

Diben y maes hwn yw cofnodi graddau'r amddifadedd sy'n ymwneud ag addysg, hyfforddiant a sgiliau. Bwriedir iddo adlewyrchu anfanteision addysgol mewn ardal o ran diffyg cymwysterau a sgiliau. Mae gan y maes bwysoliad cymharol o 14% yn y mynegai cyffredinol. Dangosyddion y maes addysg yw:

  • sgôr pwyntiau cyfartalog disgyblion blwyddyn 11 (Cyfnod Allweddol 4, CA4) a gyfrifwyd ar sail y graddau a enillwyd ym mhynciau craidd TGAU Cymraeg neu Saesneg, mathemateg a gwyddoniaeth (neu gymwysterau cyfatebol); cyfartaledd 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022 i 2023 (2022/23) a 2023/24

  • dau gyfradd absenoldeb cyson yn mesur canran y disgyblion ysgol gynradd ac uwchradd (yn y drefn honno) sy’n colli 10% neu'n fwy o sesiynau ysgol; cyfartaleddau 2 flynedd yn seiliedig ar flynyddoedd academaidd 2022/23 a 2023/24

  • cyfran y disgyblion CA4 sydd, rywbryd yn ystod y pedair blynedd ddilynol ar ôl gadael blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch; cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng blynyddoedd academaidd 2016/17 a 2019/20

  • cyfran yr oedolion 25 i 64 oed heb gymwysterau neu gymwysterau isel (lefel un), yn seiliedig ar ddata Cyfrifiad 2021

Ansawdd ystadegol

Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.

Mae'r data ar gyfer pob dangosydd (ac eithrio oedolion heb gymwysterau neu rai â chymwysterau isel) wedi'i atal os yw'r enwadur yn llai na 5 disgybl.

Addaswyd data a gasglwyd o ysgolion yn ystod y pandemig i ymdopi â heriau'r pandemig. Ar gyfer y tri dangosydd perthnasol (cyrhaeddiad CA4 a'r ddau ddangosydd absenoldeb) rydym wedi defnyddio gwerth dwy flwyddyn o ddata o’r cyfnod ar ôl y pandemig.

Casglwyd lefel cymwysterau’r boblogaeth oedran gweithio drwy’r Cyfrifiad yn ystod mis Mawrth 2021, ychydig dros flwyddyn ers i’r pandemig gael ei ddatgan. Fodd bynnag, gwelwyd bod cydberthynas dda rhwng y data a thueddiadau Cyfrifiad 2011 a ddefnyddiwyd ym MALlC 2019.

Mae’r dangosydd arall yn ystyried disgyblion CA4 sydd, ar ryw adeg yn y 4 blynedd ddilynol ar ôl gadael Blwyddyn 11, yn mynd i Addysg Uwch. Mae hyn yn defnyddio cyfartaledd 4 blynedd yn seiliedig ar ddisgyblion a adawodd yr ysgol rhwng y blynyddoedd academaidd 2016 i 2017 a 2019 i 2020. Gallwn ddisgwyl i’r pandemig gael rhywfaint o effaith ar gyrhaeddiad y rhai a adawodd yr ysgol yn 2020, ac ar ddechrau Addysg Uwch i’r holl garfanau hyn o bosibl. Byddai hyn yn effaith wirioneddol a gofnodir yn y data, ac nid ydym yn addasu ar gyfer hyn.

Talgrynnu wedi'i wneud

Mae'r tabl hwn yn cynnwys data ar gyfer y 4 dangosydd sy'n ffurfio'r maes addysg. Mae pob dangosydd wedi'i dalgrynnu i un lle degol ar wahân i sgôr pwynt cyfartalog Cyfnod Allweddol 4 sy'n cael ei dalgrynnu i rif cyfan.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru