Plant a gafodd gynnig neu sy’n manteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg Cam 2, yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Dangosydd
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

27ain Hydref 2025
9fed Hydref 2025
8fed Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol yn cael eu datblygu
Darparwr data
Llywodraeth Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni monitro data Dechrau’n Deg
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2023 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y blynyddoedd cynnar yw Dechrau'n Deg a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Nod y rhaglen yw gwella canlyniadau i deuluoedd sydd â phlant o dan 4 oed yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Dechreuodd cam cyntaf rhaglen ehangu pob un o bedair elfen Dechrau'n Deg ym mis Medi 2022. Y pedair elfen oedd: gofal plant rhan-amser a ariennir o safon i blant 2 oed; cymorth rhianta; cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd; a chymorth gwasanaethau lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Mae tabl tymhorol ar wahân yn rhydd am data o Ebrill 2025 ymlaen.

Cyfrifo neu gasglu data

Y brif ffynhonnell ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn yw gwybodaeth reoli a gesglir drwy Ffurflen Monitro Data Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Dechreuodd y gwaith casglu data hwn yn Ebrill 2012 i Mawrth 2013.

Cafodd rhaglen Dechrau'n Deg ei hehangu yn dilyn ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar yn raddol i gynnwys pob plentyn 2 oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Mae Cam 2 rhaglen ehangu'r blynyddoedd cynnar yn canolbwyntio ar ddarparu elfen gofal plant Dechrau'n Deg i fwy o blant 2 oed ledled Cymru yn ystod 2023-24 a 2024-25, ac fe ddechreuodd Cam 2 ym mis Ebrill 2023.

Mae'r ystadegau hyn yn seiliedig ar wybodaeth reoli a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru o'r awdurdodau lleol i fonitro cynnydd Cam 2 y rhaglen ehangu. Mae'r ystadegau hyn yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Rydym yn gweithio i wella ansawdd yr ystadegau hyn ar gyfer fersiynau o'r erthygl hon yn y dyfodol. Dyma'r amcangyfrif gorau sydd gennym ar nifer y lleoedd gofal plant a gynigiwyd ac y manteiswyd arnynt ym mis Ebrill 2023 i 24 Mawrth. Casglwyd data at ddibenion monitro'r broses o gyflwyno Cam 2 y rhaglen ehangu. Rydym yn ceisio mireinio a gwella'r casgliad hwn o ddata fel ei fod yn unol â Ffurflen Monitro Data Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2023-24, Mae ‘manteisio ar’ yn cyfeirio at a yw’r cynnig gofal plant yn cael ei dderbyn pa un a yw’r plentyn yn mynychu gofal plant wedyn ai peidio, ond mae rhai awdurdodau lleol yn diffinio ‘manteisio ar’ yn wahanol.

Newidiodd y diffiniad ar gyfer 'manteisio ar' yn 2024-25; o 2024-25 ymlaen y diffiniad a roddir ar gyfer 'manteisio ar' yw pan fydd plentyn yn mynychu o leiaf un sesiwn o ofal plant Dechrau'n Deg. Ni chynghorir cymharu â blynyddoedd blaenorol gan mai ystyr 'manteisio ar' yn ystod y blynyddoedd blaenorol oedd naill ai bod y cynnig wedi'i dderbyn neu bresenoldeb yn y lleoliad gofal plant. Gweler yr adroddiad ansawdd.

Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data a newidiadau i ddarpariaeth gwasanaethau Dechrau'n Deg oherwydd y pandemig ar gael yn yr adran adroddiad ansawdd.

Ansawdd ystadegol

Nid oes unrhyw faterion penodol o ran ansawdd ystadegol mewn perthynas â’r data hwn. Am faterion cyffredinol o ran ansawdd ystadegol sy’n ymwneud â’r set ddata Dechrau’n Deg, gweler yr adroddiad ansawdd.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.iechyd@llyw.cymru