Rhaglen Plant Iach Cymru: Canran flynyddol y plant cymwys sy'n derbyn cysylltiadau yn ôl awdurdod lleol, Ebrill 2019 ymlaen
Disgwylir y diweddariad nesaf:Mehefin 2026
Diweddariadau
- 10fed Mehefin 2026
Mae’r diweddariad hwn yn cynnwys y data diweddaraf ac yn cynnwys diwygiadau i ddata blaenorol. Mae pob diwygiad wedi’i nodi â’r cod nodyn [r].
- 19eg Rhagfyr 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data
- Cronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD)
- Cyfnod amser dan sylw
- Ionawr 2019 i Rhagfyr 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn pennu naw cyswllt â gweithwyr iechyd proffesiynol, ar bwyntiau penodol, ar gyfer plant yng Nghymru rhwng 10 diwrnod oed a 3.5 oed. Dylai byrddau iechyd lleol gynnig y cysylltiadau hyn i bob plentyn yng Nghymru.
Ffynhonnell y data yw’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol (NCCHD); yn gronfa ddata a sefydlwyd ac sy'n cael ei rhedeg gan DHCW. Mae'r data'n cael ei echdynnu o gronfeydd data'r System Iechyd Plant a gedwir gan BILlau. Mae’r data ar gyfer pob plentyn: yn cynnwys plant a ddiffinnir fel rhai sy’n derbyn, ac nid sy’n derbyn gwasanaethau Dechrau’n Deg gan ddefnyddio eu cod post Dechrau’n Deg.
- Cyfrifo neu gasglu data
O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth gwasanaeth iechyd trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Mae enwau'r byrddau iechyd wedi newid; mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf bellach yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ac mae bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg bellach yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.
Mae'r awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn y set ddata hon yn ymwneud ag ardal breswyl y plentyn, felly bydd y cyfansymiau'n wahanol i'r cyfansymiau a ddangosir mewn setiau data chwarterol sy'n seiliedig ar fwrdd iechyd y darparwr gwasanaeth.
- Ansawdd ystadegol
Mae effaith pandemig COVID-19 yn glir yn 2020, cafodd rhai ymwelwyr iechyd eu hadleoli gan fyrddau iechyd i weithio mewn ysbytai, ond gwnaeth y rhaglen adfer yn 2021 ac mae canran y plant sy’n cael cysylltiadau ers hynny wedi bod ar lefel eithaf tebyg i'r chwarteri ychydig cyn y pandemig. Cafodd cysylltiadau 10 i 14 diwrnod, 6 wythnos a 6 mis eu blaenoriaethu yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar wahanol adegau yn ystod tonnau'r pandemig. Mae'r data ar gyfer y cysylltiadau hyn yn dangos llai o ostyngiad yng nghanran y plant a gafodd gysylltiadau yn 2020 na'r holl bwyntiau cyswllt eraill.
Cynghorir gofal wrth ddehongli data ar gyfer yr apwyntiad meddyg teulu 6 wythnos a'r apwyntiad imiwneiddio 8 wythnos, gan fod problem ansawdd data hysbys. Mae'r data a gyflwynir yn is-gyfrif o'r gweithgarwch gwirioneddol sy'n digwydd. Mae’r mater oherwydd nad yw'r broses casglu data ar bapur yn cael ei gweithredu'n llawn. Cymerwyd camau i wella ansawdd data, a bydd mesurau pellach yn parhau i gael eu gweithredu nes i’r data fod yn fwy dibynadwy.
Mae mater ansawdd data yn ystod chwarter Ionawr-Mawrth 2024. Bu streiciau gan ymwelwyr iechyd ar 26 Chwefror 2024 ym mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a oedd yn cynnwys peidio â rhoi unrhyw ddata ystadegol ar gyfer y bwrdd iechyd na Llywodraeth Cymru. Efallai bod hyn wedi effeithio ar y ffigurau ar gyfer y chwarter rhwng Ionawr a Mawrth 2024.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru