Data blynyddol deunyddiau rheoli gwastraff trefol awdurdod lleol

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

43 o 43 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
13 o 13 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Deunydd
66 o 66 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewis sut i weld y data

Bydd gofyn i chi ddewis un newidyn ar gyfer colofnau'r tabl, ac un arall ar gyfer y rhesi
Bydd y data yn cael ei ddangos gyda cholofnau ar gyfer pob un o'r newidynnau yn y set ddata, gyda gwerth data ar gyfer pob cyfuniad o newidynnau

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

29ain Ionawr 2026
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Cyfoeth Naturiol Cymru
Ffynhonnell y data
Waste Data Flow
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2012 i Mawrth 2025

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae gwastraff y cartref yn cynnwys gwastraff y cartref a gesglir yn rheolaidd, gwastraff safleoedd amwynderau dinesig, gwastraff a gesglir ar gyfer ei ailgylchu/compostio a gwastraff a gesglir yn arbennig fel gwastraff swmpus y cartref. Pan fydd awdurdodau lleol yn casglu gwastraff nad yw'n wastraff y cartref (h.y. o fusnes, ysgol ac ati) yn yr un cylch casglu â gwastraff y cartref, mae'n bosibl na fydd rhaniad cywir rhwng y gwastraff a gesglir o'r cartref a'r gwastraff arall. Mae gwastraff nad yw'n wastraff y cartref a baratoir ar gyfer ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio yn cynnwys deunydd a gesglir gan awdurdodau lleol ar gyfer ei ailgylchu o ffynonellau masnachol. Mae'n cynnwys gwastraff a gesglir ar gyfer ei ailddefnyddio/ailgylchu/compostio ynghyd â gwastraff a gesglir gan sefydliadau preifat a gwirfoddol. Mae gwastraff trefol awdurdodau lleol yn cynnwys gwastraff y cartref ynghyd â gwastraff a gesglir o ffynonellau eraill, ac eithrio ceir gadawedig.

Mae'r ffigyrau mewn tunnelli metrig.

Cyfrifo neu gasglu data

Casglwyd data ar wastraff trefol gan ddefnyddio system adrodd ar-lein ar gyfer data ar wastraff o'r enw 'WasteDataFlow'. Yng Nghymru , mae hyn yn cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru . O 2009-10 ymlaen, cafwyd dadansoddiad ehangach o ddeunyddiau yn ôl eu math gan WDF a dangosir y dadansoddiad hwn yma. Mae'n bosibl y bydd rhai anghysondebau yn y tablau, lle nad yw cyfanswm y cydrannau yn cyfateb i'r cyfansymiau. Yng Nghymru, caiff y system hon ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Y broses dalgrynnu sy'n gyfrifol am hyn.

Ansawdd ystadegol

Mae rwbel a phlastrbwrdd yn cael eu cyfrif fel gwastraff nad yw'n wastraff y cartref mewn cyfansymiau ailgylchu, hyd yn oed os cânt eu casglu o ffynonellau gwastraff y cartref. Mae agregyn yn fath o ddeunydd sydd ar gael ar WasteDataFlow, ond mae wedi’i gyfuno â Rwbel ar gyfer y set ddata hon. Mae dilysu data ychwanegol a gynhaliwyd gan NRW wedi nodi bod y gyfran o bren a adroddwyd fel wedi’i ailgylchu neu ei ailddefnyddio yn debygol o fod wedi’i gor‑amcangyfrif yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Dylid ystyried ffigurau ailgylchu pren gyda chod nodyn [u] fel rhai o ansawdd isel ac ni ddylid eu defnyddio ar gyfer dadansoddi manwl na chymharu perfformiad rhwng awdurdodau. Mae'r cyhoeddiad ystadegol cysylltiedig a’r adroddiad ansawdd yn darparu manylion pellach.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.amgylchedd@llyw.cymru