Canlyniad apwyntiadau WGOS 4 yn ôl diben yr apwyntiad, arbenigedd clinigol a bwrdd iechyd
Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2027
Diweddariadau
- 8fed Hydref 2026
Diweddariad data ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26
- 9fed Ionawr 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Cyflwyno Ffurflenni Microsoft
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2024 i Mawrth 2026
- ID y set ddata
- 08fe70d2-036c-4f99-881b-6e3cbbccb6be
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae'r set ddata hon yn dangos nifer yr apwyntiadau Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS) 4 yng Nghymru yn ôl canlyniad yr apwyntiad, diben yr apwyntiad, arbenigedd clinigol a bwrdd iechyd. Ar gyfer pob arbenigedd clinigol a diben apwyntiad, mae'r canrannau'n dangos cyfran yr apwyntiadau a arweiniodd at bob canlyniad apwyntiad.
Mae WGOS 4 yn wasanaeth lle mae cleifion, a fyddai'n flaenorol wedi cael eu hatgyfeirio i'r Gwasanaeth Llygaid mewn Ysbyty, neu eu rheoli ganddo, yn hytrach yn aros o dan ofal sylfaenol ar gyfer asesiad gwell pellach fel rhan o lwybr mireinio neu fonitro atgyfeirio y cytunwyd arno.
- Cyfrifo neu gasglu data
Caiff hawliadau WGOS 4 eu cyflwyno'n electronig drwy ffurflenni Microsoft i Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG a'u lanlwytho i'w system taliadau K2.
Mae categorïau canlyniad yr apwyntiad wedi'u dosbarthu fel a ganlyn o'r data crai:
Atgyfeiriwyd i WGOS 4: yn cynnwys 'WGOS 4' a 'WGOS 4 gyda hawliau rhagnodi annibynnol (IP) wedi'u defnyddio i atal atgyfeiriad ymlaen i HES'.
Atgyfeiriwyd i'r ysbyty: yn cynnwys 'Atgyfeiriad i HES' ac 'Atgyfeirio i HES am wenwyndra posibl neu bendant'.
Rhyddhawyd: yn cynnwys 'Rhyddhau' a 'Rhyddhau gyda hawliau rhagnodi annibynnol (IP) wedi'u defnyddio i atal atgyfeiriad ymlaen i HES'.
Yn ogystal, mae categorïau ar wahân ar gyfer 'Dim atgyfeiriad i HES' ac 'Adroddiad wedi'i anfon at y meddyg rhagnodi' (sy'n gysylltiedig â nifer fach o apwyntiadau).
- Ansawdd ystadegol
Nid yw data blwyddyn ariannol 2024 i 2025 yn uniongyrchol gymaradwy â data blwyddyn ariannol 2025 i 2026 ymlaen, gan fod WGOS 4 wedi’i gyflwyno ar adegau gwahanol ar draws byrddau iechyd yn ystod blwyddyn ariannol 2024 i 2025.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru