Ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod), yn ôl cyfnod amser
Disgwylir y diweddariad nesaf:30 Ebrill 2026
Diweddariadau
- 20ain Mawrth 2026
Data newydd / diwygiedig
- 20ain Chwefror 2026
Data newydd / diwygiedig
- 29ain Ionawr 2026
Data newydd / diwygiedig
- 19eg Rhagfyr 2025
Data misol newydd
- 21ain Tachwedd 2025
- 30ain Hydref 2025
- 29ain Medi 2025
- 29ain Medi 2025
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data
- Awdurdod Cyllid Cymru
- Ffynhonnell y data
- Ffurflenni treth trafodiadau tir
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2018 i Mawrth 2026
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.
Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad yn ôl:
- nifer a gwerth ad-daliadau preswyl cyfradd uwch yn ôl cyfnod o amser (sail arian parod)
- Treth Trafodiadau Tir a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
Gellir dod o hyd i'r data hwn yn Nhabl 6A a Thabl 7 o'n datganiadau ystadegol (gweler y dolenni). Mae'n arbennig o ddefnyddiol wrth ddadansoddi ystadegau'r treth trafodiadau tir ar sail arian parod.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r taliadau unigol, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.
- Ansawdd ystadegol
Gweler y dolenni.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.
Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.
Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.
Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.
Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl o 10 Hydref 2022.
Newidwyd y gyfraddau uwch preswyl ar gyfer pob bandiau o 11 Rhagfyr 2024.
Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:
Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir
Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth
Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir
Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir
- Talgrynnu wedi'i wneud
Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r taliadau unigol, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Awdurdod Cyllid Cymru
- E-bost cysylltu
- data@acc.llyw.cymru