Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yn ôl gwlad yn y DU/rhanbarth yn Lloegr (canolrif enillion wythnosol a fesul awr ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser)

Hidlwyr

Byddwch yn gallu newid y dewisiadau hidlo ar ôl i chi ddewis sut i weld y data.
Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

2 o 2 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Blwyddyn
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal
15 o 15 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Rhyw
4 o 4 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad

Dewiswch newidyn ar gyfer colofnau'r tabl

Bydd gwerthoedd y newidyn hwn yn mynd ar draws brig eich tabl. Er enghraifft, ar gyfer newidyn sy'n cynnwys blynyddoedd, byddai gan bob blwyddyn ei golofn ei hun. Gallwch ddewis newidyn yn y ddewislen 'Hidlyddion newidynnau' i weld pa werthoedd sydd ynddo.

Disgwylir y diweddariad nesaf:Hydref 2026

Diweddariadau

28ain Hydref 2025
27ain Hydref 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
Ffynhonnell y data
Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Mae'r data hyn yn dangos enillion cyfartalog gros mewn punnoedd cyflogedigion amser llawn gwrywaidd a benywaidd heb gynnwys goramser. Mae'r data'n ymwneud â chyflogedigion amser llawn ar gyfraddau oedolion na effeithiwyd ar eu tâl yng nghyfnod yr arolwg gan absenoldeb. Mae ardal yn golygu lleoliad y gweithle, nid cartref y gweithiwr.

Mae sawl ffordd o fesur enillion menywod i'w cymharu â rhai dynion. Mae prif amcangyfrifon yr ONS o'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn seiliedig ar enillion fesul awr heb gynnwys goramser. Gallai goramser ystumio'r darlun gan fod dynion yn gweithio cymharol fwy o oramser na menywod. Er bod tâl canolrif a chymedrig fesul awr heb gynnwys goramser yn gallu bod yn ddefnyddiol wrth gymharu enillion dynion a menywod, nid ydynt yn dangos y gwahaniaeth yng nghyfraddau cyflog swyddi cymharol. Hynny am nad yw'r mesurau hyn yn caniatáu ar gyfer nodweddion cyflogaeth gwahanol dynion a menywod, megis y gyfran sydd mewn galwedigaethau gwahanol a faint o amser y maent wedi bod yn y swydd.

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) yn seiliedig ar sampl o 1% o swyddi cyflogedigion, wedi'u cymryd o gofnodion PAYE Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Gallai unigolion sy'n gwneud mwy nag un swydd felly ymddangos yn y sampl fwy nag unwaith. Darperir yr wybodaeth am enillion ac oriau gan gyflogwyr a chedwir yr wybodaeth yn gyfrinachol. Nid yw ASHE yn ymdrin â gweithwyr hunangyflogedig nag â gweithwyr na chawsant eu talu yn y cyfnod cyfeirio.

Defnyddir y canolrif yn aml fel y prif fesur ar gyfer enillion cyfartalog, hynny am fod y gwasgariad enillion wedi'u gogwyddo , gyda mwy o bobl yn ennill cyflogau is nag sy'n ennill cyflogau uwch. Mewn gwasgariad wedi'i ystumio, gall nifer gymharol fach o werthoedd uchel gan dylanwad anghymarus ar y cymedr, gan ei dynnu oddi wrth yr hyn y gellid ei ystyried yn nodweddiadol. Nid yw gwerthoedd eithafol yn effeithiol ar y canolrif ac o'r herwydd, fe'i ystyrir yn fesur gwell o enillion 'cyfartalog' nodweddiadol.

Ansawdd ystadegol

Cafwyd y ffigurau hyn o'r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE) sy'n cael ei gynnal gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Yn 2004, disodlwyd yr Arolwg Enillion Newydd gan ASHE trwy ddefnyddio dull newydd o gyfrif y data enillion. Mae'r fethodoleg newydd hon yn pwysoli'r canlyniadau er mwyn ystyried strwythur y boblogaeth o ran oed, rhyw, galwedigaeth ac ardal y gweithle (Llundain a De-ddwyrain Lloegr a mannau eraill yn y DU). Cafodd data NES ar gyfer 1997 hyd 2003 eu hailweithio er mwyn cael ôl-gyfres o ddata enillion sy'n seiliedig ar y fethodoleg newydd.

Cafwyd rhagor o newidiadau i fethodoleg ASHE yn 2005 yn sgil cyflwyno holiadur newydd. Cafodd data 2004 eu hailweithio er mwyn eu gwneud yn gyson â'r fethodoleg newydd ond nid oedd yn bosib gwneud hynny i ganlyniadau blynyddoedd cynt. Felly cafwyd gwerthoedd y rhoddwyd y gorau i'w mesur yn y data, a rhaid ystyried hynny wrth wneud cymariaethau dros amser.

Cyflwynwyd system codio awtomatig newydd ar gyfer galwedigaethau yn 2007. Effaith fwyaf hynny oedd tynnu nifer o swyddi o'r grwpiau galwedigaethol uwch i grwpiau galwedigaethol eraill. Tuedd hynny oedd gostwng enillion cyfartalog y grwpiau galwedigaethol uwch a gostwng enillion yn gyffredinol. Yn rhannol fel ymateb i'r newid yn nyluniad y sampl, cyflwynwyd stratwm pwysoli ychwanegol ar gyfer y mentrau mawr sy'n cyflwyno atebion electronig i'r arolwg (trefniadau arbennig). Ni welwyd lleihad yn y sampl o'r mentrau hyn.

Yn 2007 a 2008, penderfynwyd gostwng y sampl ryw 20 y cant. Penderfynwyd sicrhau bod y gostyngiad mwyaf yn digwydd yn y sampl o'r diwydiannau lle cafwyd yr amrywiaeth leiaf yn yr enillion. Yn 2009, adferwyd maint gwreiddiol y sampl.

Ar gyfer amcangyfrifon ASHE 2011, cafodd y grwpiau galwedigaethol eu hailddosbarthu. Gan fod y dosbarth galwedigaethol yn rhan o'r fethodoleg y pwysolir data ASHE i gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y DU, roedd hyn yn ddechrau ar gyfres amser newydd ac felly dylid cymryd gofal wrth wneud cymariaethau â blynyddoedd cynt.

Gan y daw'r canlyniadau o arolwg, mae'r canlyniadau'n amcangyfrifon sy'n seiliedig ar sampl ac yr effeithir arnynt felly i raddau gwahanol gan amrywiadau yn y sampl h.y. mae gwir werth unrhyw fesur yn sefyll mewn ystod amrywiol o bob tu'r gwerth a amcangyfrifir. Mae'r ystod hwn neu'r amrywiad yn y sampl yn cynyddu wrth i fanylder y data gynyddu, er enghraifft ceir mwy o amrywiad yn y data rhanbarthol nag yn y data ar gyfer Prydain Fawr neu'r Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg y data, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Arolwg Blynyddol Oriau ac Enillion y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Talgrynnu wedi'i wneud

Enillion wythnosol gros wedi’u talgrynnu i un lle degol. Enillion gros fesul awr wedi’u talgrynnu i ddau le degol.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Llywodraeth Cymru
E-bost cysylltu
ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru