Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl awdurdod lleol, math o drafodiad, mesur a blwyddyn dod i rym

Hidlwyr

Disgrifiad o’r data

Mae hyn yn nodi beth mae gwerth data yn ei gynrychioli

5 o 5 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Cyfnod amser
29 o 29 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Ardal awdurdod lleol
23 o 23 wedi'u dewis
Nid oes gwerthoedd yn cyfateb â'ch chwiliad
Crynodeb o newidynnau a gwerthoedd a ddewiswyd
NewidynGwelededdGwerthoedd a ddewiswydGweithred
Disgrifiad o’r dataWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 5 gwerthNewid gwerthoedd
Cyfnod amserWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 29 gwerthNewid gwerthoedd
Ardal awdurdod lleolWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 23 gwerthNewid gwerthoedd
Math y trafodiadWedi'i ddangos yn y tablPob un o'r 7 gwerthNewid gwerthoedd

Tabl

Lawrlwytho'r tabl hwn

Defnyddir Llawfer safonol yn y tabl hwn: [k] = ffigwr isel, [r] = diwygiedig.

Gwerthoedd dataDisgrifiad o’r dataCyfnod amserArdal awdurdod lleolMath y trafodiad
59,550Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026CymruPob trafodiadau
53,390Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026CymruPreswyl
42,330Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026CymruPreswyl prif gyfradd
11,060Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026CymruPreswyl cyfraddau uwch
6,160Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026CymruAmhreswyl
1,190Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Ynys MônPob trafodiadau
1,020Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Ynys MônPreswyl
780Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Ynys MônPreswyl prif gyfradd
250Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Ynys MônPreswyl cyfraddau uwch
160Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Ynys MônAmhreswyl
2,210Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026GwyneddPob trafodiadau
1,890Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026GwyneddPreswyl
1,410Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026GwyneddPreswyl prif gyfradd
480Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026GwyneddPreswyl cyfraddau uwch
320Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026GwyneddAmhreswyl
2,620Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026ConwyPob trafodiadau
2,330Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026ConwyPreswyl
1,900Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026ConwyPreswyl prif gyfradd
430Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026ConwyPreswyl cyfraddau uwch
290Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026ConwyAmhreswyl
1,930Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Sir DdinbychPob trafodiadau
1,720Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Sir DdinbychPreswyl
1,380Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Sir DdinbychPreswyl prif gyfradd
340Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Sir DdinbychPreswyl cyfraddau uwch
210Nifer o drafodiadauBlwyddyn yn gorffen 31 Mawrth 2026Sir DdinbychAmhreswyl
Yn dangos 1 i 25 o 16,675 rhes
Page 1 of 667

Dewiswch beth i'w lawrlwytho

Dewiswch fformat lawrlwytho

Dewiswch fformat rhifau

Mae hyn yn cynnwys talgrynnu i leoedd degol a chomas er mwyn gwahanu miloedd

Dewiswch a ddylid cynnwys codau cyfeirio a hierarchiaethau

  • Mae codau cyfeirio yn ddynodwyr unigryw ar gyfer gwerthoedd newidyn penodol, fel ardaloedd daearyddol
  • Mae hierarchiaethau'n dangos sut mae gwerthoedd newidyn yn cael eu grwpio gyda'i gilydd, fel pa ardaloedd daearyddol sydd ym mha ardaloedd daearyddol mwy
  • Os oes gan y tabl presennol newidynnau cudd, ni allwch ei lawrlwytho gyda chodau cyfeirio a hierarchiaethau
Bydd y rhain yn cael eu cynnwys fel colofnau ychwanegol yn y tabl a lawrlwythwyd

Dewiswch iaith

Disgwylir y diweddariad nesaf:6 Awst 2026

Diweddariadau

30ain Ebrill 2026

Data newydd / diwygiedig

29ain Ionawr 2026

Data newydd / diwygiedig

30ain Hydref 2025
29ain Medi 2025
26ain Medi 2025
Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.

Prif wybodaeth

Dynodiad
Ystadegau swyddogol achrededig
Darparwr data
Awdurdod Cyllid Cymru
Ffynhonnell y data
Ffurflenni treth trafodiadau tir
Cyfnod amser dan sylw
Ebrill 2018 i Mawrth 2026

Trosolwg

Crynodeb o’r set ddata a newidynnau

Ar 1 Ebrill 2018, cafodd Treth Dir y Dreth Stamp ei disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael eu prynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth TTT yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.

Rhaid i drethdalwyr hysbysu’r Awdurdod am bob trafodiad tir sydd â gwerth uwch na £40,000. Ceir amgylchiadau hefyd lle nad yw rhai trafodiadau les penodol yn hysbysadwy os ydynt yn para am lai na 7 mlynedd. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dod i rym i gyflwyno a thalu'r ffurflen.

Mae'r set ddata hon yn cynnwys amcangyfrifon o drafodiadau hysbysiad TTT a dderbyniwyd gan yr Awdurdod erbyn cau'r trydydd ddydd Llun o fis y cyhoeddiad.

Mae'r set ddata’n cynnwys dadansoddiad fesul:

  • y math o drafodiad: preswyl (gan gynnwys is-gategorïau ar gyfer trafodiadau prif gyfradd a chyfradd uwch), amhreswyl
  • awdurdod lleol: pob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru
  • mesur: nifer y trafodiadau, treth sy'n ddyledus, gwerth yr eiddo a drethir, y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad a gwerth cyfartalog yr eiddo sy'n cael ei drethu
  • blwyddyn y daw i rym (blynyddoedd sy'n dod i ben ar Fehefin, Medi, Rhagfyr a Mawrth)

Noder mai ar gyfer trafodiadau preswyl yn unig y cyflwynir gwerthoedd eiddo a gwerth eiddo cyfartalog er mwyn osgoi datgelu’n ddamweiniol fanylion sy'n ymwneud â thrafodiadau amhreswyl unigol.

Mae esboniad llawn o sut y dylid dehongli'r set ddata hon, yn enwedig yng nghyd-destun trafodiadau cyfraddau uwch, i'w gweld yma: Bwriad prynwyr wrth wneud trafodiadau lle telir cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf 2024 i Mehefin 2025

Ar gyfer rhai trafodiadau ni allwn ddarparu unrhyw fanylion heblaw cyfanswm y dreth sy'n ddyledus yn y flwyddyn, gan fod perygl o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol. Felly, mae trafodiadau hyn wedi'u hepgor o bob dadansoddiadau a chânt eu crynhoi yma yn y set data "Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfanswm y dreth sy'n ddyledus, gan gynnwys trafodiadau sydd â manylion cyfyngedig (er mwyn sicrhau cyfrinachedd)".

Cyfrifo neu gasglu data

Mae'r ystadegau hyn wedi'u crynhoi o'r dychweliadau Treth Trafodiadau Tir unigol a gyflwynwyd i'r WRA gan drethdalwyr, sydd wedyn wedi'u dadansoddi i mewn i dimensiynau gwahanol.

Ansawdd ystadegol

Gweler y dolenni.

Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn cael eu diwygio'n rheolaidd ac mae'r gwerthoedd ar gyfer y cyfnod diweddaraf yn rhai dros dro. Wrth ffeilio ffurflen TTT, bydd gan y sefydliad sy'n talu'r ffurflen dreth 30 diwrnod ar ôl y ‘dyddiad dod i rym’ i gyflwyno a thalu'r ffurflen. Y dyddiad dod i rym yw’r dyddiad pan fydd y dreth yn dod yn daladwy, fel arfer pan fydd trafodiad ar eiddo yn cael ei gwblhau. Felly, mae'n debygol y caiff trafodiadau TTT sy'n ymwneud â'r mis diweddaraf eu ffeilio yn ystod y mis canlynol. Gweler y dolenni am ddadansoddiad o’r diwygiadau hyn.

Gall y gwerthoedd ar gyfer cyfnodau cynharach gael eu diwygio am nifer o flynyddoedd. Gellir diwygio trafodiadau am amryw o resymau ac mae'r ystadegau'n cael eu diwygio bob mis er mwyn adlewyrchu newidiadau i drafodiadau. Bydd hyn, yn enwedig, o ganlyniad i ad-daliadau cyfraddau uwch. Pan fydd ad-daliad TTT preswyl cyfraddau uwch yn cael ei hawlio, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad TTT preswyl prif gyfradd. Mae gan y trethdalwr hyd at dair blynedd i werthu ei brif breswylfa flaenorol a hawlio ad-daliad.

Dylid cymryd gofal gydag unrhyw gymariaethau dros amser sy'n cynnwys data ar gyfer gwanwyn 2020 i’r haf 2021. Mae hyn oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19) a newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir. O ganlyniad i’r clo cenedlaethol ar 23 Mawrth 2020, caewyd y farchnad dai gan mwyaf o'r dyddiad hwn tan 22 Mehefin 2020 pan ailagorodd yn rhannol. Ailagorwyd y farchnad yn llawnach ar 27 Gorffennaf, i gyd-fynd â newid yng nghyfraddau’r Dreth Trafodiadau Tir sy’n weithredol hyd at 30 Mehefin 2021. Mae tystiolaeth y gallai rhai prynwyr fod wedi symud eu trafodiadau ymlaen i fis Mehefin 2021 er mwyn elwa ar y gostyngiad treth dros dro.

Roedd rhai newidiadau i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn weithredol o 22 Rhagfyr 2020. Effeithiwyd ar trafodiadau amhreswyl a thrafodiadau preswyl cyfraddau uwch.

Newidwyd y prif gyfraddau a bandiau preswyl o 10 Hydref 2022.

Newidwyd y gyfraddau uwch preswyl ar gyfer pob bandiau o 11 Rhagfyr 2024.

Gellir darllen gwybodaeth am yr holl newidiadau hyn i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir yn:

Newidiadau i drothwy cyfradd sero y Dreth Trafodiadau Tir

Y Dreth Trafodiadau Tir – ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth

Newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir

Newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Newidiadau i gyfraddau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir

Talgrynnu wedi'i wneud

Caiff y gwerthoedd yn y set ddata hon eu talgrynnu i'r 10 trafodiad agosaf, i’r £0.1 miliwn agosaf o ran treth sy’n ddyledus, ac i’r £1 miliwn agosaf ar gyfer gwerth yr eiddo sy'n cael ei drethu. Dangosir y dreth gyfartalog sy'n ddyledus fesul trafodiad i'r £10 agosaf, tra dangosir y gwerth cyfartalog fesul trafodiad i'r £1000 agosaf.

Cyhoeddwyd gan

Sefydliad
Awdurdod Cyllid Cymru
E-bost cysylltu
data@acc.llyw.cymru