Proffiliau amddifadedd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2025 ar gyfer dosbarthiad gwledig-trefol
Disgwylir y diweddariad nesaf:Ni ddisgwylir i'r set ddata hon gael ei diweddaru, na'i disodli yn y dyfodol
Diweddariadau
- 11eg Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol achrededig
- Darparwr data 1
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Ffynhonnell y data 1
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 2
- Arolygiaeth Gofal Cymru
- Ffynhonnell y data 2
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 3
- Weinyddiaeth Gyfiawnder
- Ffynhonnell y data 3
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 4
- Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
- Ffynhonnell y data 4
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 5
- Arolwg Ordnans
- Ffynhonnell y data 5
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 6
- Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
- Ffynhonnell y data 6
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 7
- Cyllid a Thollau EF
- Ffynhonnell y data 7
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 8
- Llywodraeth Cymru
- Ffynhonnell y data 8
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 9
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data 9
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 10
- Yr Adran Addysg
- Ffynhonnell y data 10
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 11
- Swyddfa Gartref
- Ffynhonnell y data 11
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 12
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Ffynhonnell y data 12
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 13
- Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG)
- Ffynhonnell y data 13
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 14
- Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
- Ffynhonnell y data 14
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 15
- Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW)
- Ffynhonnell y data 15
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 16
- NHS England
- Ffynhonnell y data 16
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
- Darparwr data 17
- Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraethau Lleol
- Ffynhonnell y data 17
- Dim ffynhonnell benodol gan ddarparwr y data
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) yw'r mesur swyddogol o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Mae’n pennu safle pob un o'r 1,917 o Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is (ACEHIau) o'r mwyaf (safle 1) i'r lleiaf (safle 1,917) difreintiedig. Mae'n cyfuno 54 o ddangosyddion wedi'u grwpio o dan 8 maes sydd â'r pwysau canlynol yn y mynegai cyffredinol: Incwm (22%), Cyflogaeth (20%), Iechyd (15%), Addysg (14%), Mynediad at Wasanaethau (10%), Tai (9%), Diogelwch Cymunedol (5%), a'r Amgylchedd Ffisegol (5%).
Mae MALlC yn cynhyrchu safleoedd maes a mynegai cyffredinol i nodi ardaloedd gyda'r crynodiadau uchaf o sawl math o amddifadedd. Mae'r rhan fwyaf o'r gwerthoedd dangosydd, rhai gwerthoedd is-ddangosydd a rhai safleoedd is-faes hefyd yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru. Gweler yr adroddiad canllawiau ac adroddiad technegol MALlC am ragor o wybodaeth.
Mae'r tabl hwn yn cynnwys nifer a chanran yr ACEHI ym mhob grŵp amddifadedd, ym mhob dosbarthiad gwledig-trefol.
Mae Dosbarthiad Gwledig-Trefol 2021 yn ddosbarthiad ystadegol sy'n darparu dull cyson a safonol ar gyfer categoreiddio ardaloedd daearyddol fel rhai gwledig neu drefol. Mae'r dosbarthiad a ddefnyddir i gynhyrchu'r amcangyfrifon hyn yn fersiwn wedi'i haddasu o'r Dosbarthiad Gwledig-Trefol, yn seiliedig ar y canlynol:
- dwysedd y cyfeiriad
- a yw'r ardal o fewn ardal adeiledig gyfun (ABUA)
- maint y boblogaeth
- mynediad cymharol at drefi a dinasoedd sylweddol (â phoblogaeth breswyl arferol o 25,000 neu ragor)
Mae'r Dosbarthiad Gwledig-Trefol a ddefnyddir i gynhyrchu'r amcangyfrifon hyn yn diffinio mynediad cymharol fel a ganlyn:
- Agosach at dref neu ddinas sylweddol: gellir cyrraedd ardal adeiledig â phoblogaeth breswyl arferol o 25,000 neu ragor o fewn 30 munud ar y ffordd
- Pellach o dref neu ddinas fawr: ni ellir cyrraedd ardal adeiledig â phoblogaeth breswyl arferol o 25,000 neu ragor o fewn 30 munud ar y ffordd.
Cewch ragor o wybodaeth yn y Canllaw i Ddefnyddwyr ar y Dosbarthiad Gwledig-Trefol (Saesneg yn unig) ar borth Open Geography y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Ar ôl ymgynghori â rhanddeiliaid, rydym wedi cynhyrchu'r amcangyfrifon yn y set ddata hon gan ddefnyddio dosbarthiad penodol sy'n disodli'r trothwy swyddogol o boblogaeth breswyl arferol o 75,000 gyda throthwy o boblogaeth breswyl arferol o 25,000. Gwnaed hyn i adlewyrchu pwysigrwydd aneddiadau llai fel canolfannau gwasanaeth, gan mai dim ond tair ardal adeiledig sydd gan Gymru â phoblogaeth breswyl arferol o 75,000 neu ragor (Caerdydd, Casnewydd ac Abertawe).
Rydym yn gweithio gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod chwiliadau LSOA i Ddosbarthiad Gwledig-Trefol (trothwy 25,000) ar gael yn y dyfodol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Mae tri phrif gydran i fynegai 2025:
- y 54 set ddata dangosyddion sylfaenol
- safleoedd ar gyfer y 8 maes (neu fathau) wahanol o amddifadedd, wedi’u creu drwy gyfuno dangosyddion perthnasol o fewn pob parth
- safleoedd cyffredinol MALIC, wedi’u creu drwy gyfuno safleoedd y meysydd
Mae’r holl gydrannau hyn yn cael eu cyfrifo ar gyfer pob un o’r ardaloedd bach (Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is neu ACEHIau) yng Nghymru ac yn cael eu cyhoeddi.
Mae’r ffordd y caiff y dangosyddion a’r meysydd eu cyfuno wedi’i chynllunio i wahaniaethu’n ddibynadwy rhwng ardaloedd ar ben mwyaf amddifadedd y dosbarthiad, ond nid ar ben lleiaf amddifadedd. Mae hyn yn golygu nad yw gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd lleiaf amddifad yng Nghymru mor glir â’r gwahaniaethau rhwng yr ardaloedd mwy amddifad.
Er mwyn cymharu daearyddiaethau mwy o faint, gallwch gyfrifo cyfran yr ardaloedd bach mewn daearyddiaeth fwy o faint sydd ymhlith (dyweder) y 10% neu’r 20% o ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru. Er enghraifft, os bydd mwy na 10% o ardaloedd bach ardal ymhlith y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru, gellir ei hystyried yn gymharol ddifreintiedig. Os bydd llai na 10%, yna gellir ei hystyried yn gymharol lai difreintiedig.
Rydym yn cyhoeddi proffiliau amddifadedd MALlC 2025 ar gyfer rhai daearyddiaethau mwy o faint, sydd yn darparu niferoedd a chanrannau o ACEHIau o fewn daearyddiaeth mwy o faint sydd yn y categorïau hyn o amddifadedd:
- 10% mwyaf difreintiedig
- 20% mwyaf difreintiedig
- 30% mwyaf difreintiedig
- 50% mwyaf difreintiedig
Mae hwn ar gael ar gyfer mynegai MALlC 2025 cyffredinol a phob un o'r 8 maes.
- Ansawdd ystadegol
Mae data MALlC 2025 wedi'u cynhyrchu gan ystadegwyr proffesiynol gan ddefnyddio'r data diweddaraf, dulliau dadansoddol trylwyr, a dilysu annibynnol ar bob cam. Mae MALlC 2025 yn adeiladu ar fersiynau blaenorol i sicrhau cywirdeb a dibynadwyedd, gan gyfuno 54 o ddangosyddion o ffynonellau amrywiol (mae rhai, ond nid pob un ohonynt, yn seiliedig ar ffynonellau ystadegau swyddogol) i leihau rhagfarn a chryfhau cadernid. Roedd sicrhau ansawdd yn cynnwys gwiriadau lluosog, atgynhyrchu canlyniadau, ac adolygiad arbenigol gydag arbenigwyr maes ac awdurdodau lleol.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru