Fferyllfa gymunedol: nifer y nwyddau a ddosbarthwyd gan bwrdd iechyd lleol
Disgwylir y diweddariad nesaf:2027
Diweddariadau
- 12fed Mawrth 2026
- Set ddata a gyhoeddwyd gyntaf.
Prif wybodaeth
- Dynodiad
- Ystadegau swyddogol
- Darparwr data
- Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
- Ffynhonnell y data
- Adroddiadau PD1, Gwasanaethau Fferyllol
- Cyfnod amser dan sylw
- Ebrill 2014 i Mawrth 2025
Trosolwg
- Crynodeb o’r set ddata a newidynnau
Mae’r data yn y tabl hwn yn dangos nifer yr eitemau presgripsiwn a weinyddwyd o fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol. Darperir y tabl hwn i amlygu gweithgarwch mewn fferyllfeydd cymunedol bob blwyddyn.
Nid yw'n cynnwys eitemau a ddosberthir gan feddygon sy'n dosbarthu ac eitemau a weinyddir yn bersonol a ragnodwyd ac a weinyddir gan aelod o'r practis cyffredinol (sydd wedi'u cynnwys yn yr ystadegau presgripsiynau gofal sylfaenol).
Sylwch mai’r brif ffynhonnell ddata ar gyfer data presgripsiynau yw’r datganiad ystadegol presgripsiynau gofal sylfaenol, sy’n ategu’r datganiad fferylliaeth gymunedol hwn. Mae'r datganiad presgripsiynau gofal sylfaenol yn darparu dadansoddiad manwl o eitemau a ragnodwyd gan bob contractwr gofal sylfaenol a weinyddwyd yn y gymuned. Mae’n cynnwys ystadegau ar eitemau a ragnodwyd gan fferyllwyr sy’n gweithio mewn fferyllfeydd cymunedol a chan fferyllwyr sy’n gweithio mewn practisau cyffredinol.
- Cyfrifo neu gasglu data
Yn data hwn mae’n seiliedig ar hawliadau a wnaed (Adroddiadau PD1) i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gan fferyllfeydd cymunedol a weinyddodd yr eitemau
- Ansawdd ystadegol
Mae nodiadau manwl, cefndir a diffiniadau i'w gweld yn y datganiad ystadegol a'r adroddiad ansawdd cysylltiedig.
- Adroddiadau cysylltiedig
Cyhoeddwyd gan
- Sefydliad
- Llywodraeth Cymru
- E-bost cysylltu
- ystadegau.iechyd@llyw.cymru